Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r argymhellion yn yr adroddiad a drafodasom yr wythnos diwethaf oedd yr awgrym y dylai Cymru gael comisiynydd y lluoedd arfog er mwyn nodi'r math o arferion gorau y mae Vikki Howells newydd gyfeirio atynt, ac i sicrhau eu bod yn cael eu rhannu'n eang ledled y wlad, a bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif am eu cyflawni yn erbyn cyfamod y lluoedd arfog. Hoffwn gael gwybod a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog, yn ystyried ei roi ar waith yma yng Nghymru. Rwy'n credu y buasai'n rhoi rhywfaint o hyder i gymuned y cyn-filwyr a theulu ein lluoedd arfog yma yng Nghymru ynghylch ymrwymiad parhaus eich Llywodraeth i'r lluoedd arfog.