Cefnogi'r Lluoedd Arfog

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:02, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mewn ymateb i'r ddadl yr wythnos ddiwethaf, rhoddais addewid y buaswn yn ystyried pob un o argymhellion y grŵp trawsbleidiol gyda meddwl agored. Rwy'n ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Rwyf wedi cytuno hefyd i fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, ac rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i wneud hynny, ac i barhau â'r sgwrs a ddechreuasom yr wythnos diwethaf ar sut y gallwn barhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn y wlad hon.