'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:53, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn yr ardal honno, rwy'n credu, yn gyfarfod bywiog lle y mynegwyd llawer o'r safbwyntiau hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled rhanbarth y Cymoedd, i sicrhau ein bod yn gallu gwrando a bwrw ymlaen ar sail yr hyn rydym yn ei glywed. Un o'r pethau rydym wedi'i ganfod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o ymgysylltu cyhoeddus, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yw bod hwn yn gynllun sy'n deillio o'r Cymoedd ac nid yn unig ar gyfer y Cymoedd. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer pobl yn y Cymoedd, ar hyd a lled y Cymoedd.

Ond ar yr un pryd, mae angen i ni wneud penderfyniadau strategol, ac nid yw'n bosibl cael hyb strategol ym mhob cwm, ym mhob etholaeth, ym mhob tref a phentref ar draws rhanbarth y Cymoedd. Dyna'r peth diwethaf rydym ei angen ar hyn o bryd. Rydym angen gweledigaethau strategol a beiddgar. Rydym angen cyflawni, rydym angen buddsoddiadau ac rydym angen dod â phobl at ei gilydd. Mae'r Llywodraeth hon angen gweithredu fel arweinydd ac fel catalydd, a bydd y Llywodraeth hon yn sicr o wneud hynny.