Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet?
Roeddwn ychydig yn fwy cynhyrfus o weld bod cwm Llynfi yn cael ei gynnwys yn eich cynlluniau. Ond rwy'n tybio eich bod eisoes wedi siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â pha ddisgwyliadau fydd gennych ohonynt, nid yn unig o ran yr hyn y byddant yn ei wneud, ond beth fydd canlyniadau hyn. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth Dai Lloyd ynglŷn â'r ffaith bod elfen o gydgynhyrchu yn y broses o gynllunio hyn, ond nid wyf yn credu ein bod wedi gweld hynny eto. Rwy'n meddwl tybed a allech ddweud wrthym pwy fydd yn bennaf gyfrifol am ddarparu cynlluniau gweithredu lleol fel ein bod yn gwybod lle i gyfeirio ein gwaith craffu y tu allan i'r Siambr hon?