Cefnogi'r Lluoedd Arfog

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:03, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd eich croesawu i'ch rôl? Mawr yw ein diolch i'r lluoedd arfog. Y ffordd orau o ad-dalu'r ddyled yw sicrhau ein bod yn edrych ar eu hôl hwy a'u teuluoedd. Efallai y bydd aelodau o'r lluoedd arfog angen help ychwanegol gyda chynhyrchion ariannol oherwydd eu bod yn gorfod adleoli'n aml. Mae'n bosibl y bydd teuluoedd y personél hyn angen gofal a chymorth iechyd meddwl ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd plant aelodau o'r lluoedd arfog angen cymorth ychwanegol oherwydd diffyg parhad o ganlyniad i newid ysgol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn bwriadu atgyfnerthu cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn cefnogi ein lluoedd arfog ym mhob ffordd bosibl, a bod ganddynt hwy a'u teuluoedd fynediad blaenoriaethol at wasanaethau cyhoeddus?