Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi nad oedd hyrwyddwr gwell ar ran ein lluoedd arfog yn y Senedd hon na Carl Sargeant? Yn y Siambr hon y llynedd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, amlinellodd Carl gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr, megis y llwybr atgyfeirio tai arloesol i sicrhau bod cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn cael cymorth i ddod o hyd i lety addas ac osgoi digartrefedd—canlyniad trychinebus i fod yn aelod o'r lluoedd arfog. Mae Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer cyn-filwyr yn fenter greadigol hynod o werthfawr sy'n caniatáu i gyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol gael cymorth ychwanegol gan y gwasanaethau brys ar adegau o argyfwng. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau gweithredu, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu ar waith angerddol Carl yn y maes hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i roi gwerth ar ein dyletswydd barhaus o ofal i'r rheini sydd wedi rhoi popeth—ein cyn-filwyr a'u teuluoedd—a pharhau i chwarae ein rhan yn ad-dalu ein dyled iddynt a'n dyletswydd tuag atynt?