Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Lywydd, rwy'n credu bod Aelodau ar draws y Siambr gyfan wedi talu teyrnged i waith Carl Sergeant yn ystod ein dadl yr wythnos ddiwethaf, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn o ychwanegu fy llais at y teyrngedau hynny. Carl, mewn llawer o ffyrdd, a arweiniodd waith y Llywodraeth gyfan yn y maes hwn, ac mae'r ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel y wlad sydd ar y blaen yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â darparu cymorth i gyn-filwyr a theuluoedd a chymuned y lluoedd arfog yn tystio i'r gwaith a wnaed o dan arweiniad Carl.
Rwyf am ddweud wrth yr Aelod y byddwn yn parhau i weithio gyda'r grŵp arbenigol a sefydlwyd i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i'r holl faterion sy'n cael eu codi gan gymuned y lluoedd arfog yn y wlad hon, boed yn faterion iechyd a godwyd y prynhawn yma neu faterion tai neu faterion cyflogaeth a godwyd ar adegau eraill. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid allweddol ar draws y gymuned ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus gyda swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd newydd eu penodi. Byddwn yn sicrhau ein bod yn cyflawni cyfamod y lluoedd arfog yn gyson, ar draws y wlad, drwy gydol y flwyddyn.