Asesiadau Effaith Brexit Llywodraeth y DU

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:36, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, anfonwyd adroddiadau sectoraidd Brexit Llywodraeth y DU at Lywodraeth Cymru yn hwyr ddydd Llun. Maent bellach yn cael eu hastudio er mwyn canfod pa syniadau a goblygiadau newydd y maent yn eu cynnwys, os o gwbl. Rydym yn credu y dylai'r adroddiadau hyn fod yn gyhoeddus, ond Llywodraeth y DU yn unig a all wneud y penderfyniad hwnnw.