3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ddydd Mawrth? 78
Lywydd, anfonwyd adroddiadau sectoraidd Brexit Llywodraeth y DU at Lywodraeth Cymru yn hwyr ddydd Llun. Maent bellach yn cael eu hastudio er mwyn canfod pa syniadau a goblygiadau newydd y maent yn eu cynnwys, os o gwbl. Rydym yn credu y dylai'r adroddiadau hyn fod yn gyhoeddus, ond Llywodraeth y DU yn unig a all wneud y penderfyniad hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod yr asesiadau effaith Brexit a roddwyd i chi yn anghyflawn neu wedi cael eu golygu, fel roeddent ar gyfer pwyllgor dethol Brexit yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU yn dirmygu'r Senedd, ac yn dangos dim llai na dirmyg tuag at Gymru. Dyma wybodaeth hanfodol y mae angen ei datgelu. Rydym angen i'r 58 sector gael eu dadansoddi'n llawn, fel y gallwn baratoi Cymru ar gyfer unrhyw effeithiau andwyol ar ôl gadael y farchnad sengl neu'r undeb tollau, a gobeithiaf y gellir rhoi pwysau arnynt ar bob pen i'r M4 i adael i'r asesiadau hynny gael eu cyhoeddi'n llawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych wedi cael digon o wybodaeth i gynnal dadansoddiadau sectoraidd penodol i Gymru? Os nad ydych, beth y gallwch ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod digon o ddeallusrwydd economaidd yn bodoli i Gymru allu darparu ar gyfer Brexit? A allwch chi gyhoeddi eich rhagolygon economaidd eich hun ar gyfer y gwahanol senarios Brexit? Ac a wnewch chi ddarparu cymorth i fusnesau ac allforwyr cyn ac ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd?
Lywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle mai'r dogfennau a anfonwyd atom oedd y fersiynau a olygwyd yn helaeth a anfonwyd at bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin, er gwaethaf pleidlais orfodi yn Nhŷ'r Cyffredin i ryddhau'r dogfennau'n llawn. Mae'r dogfennau hynny'n cael eu hastudio yn Llywodraeth Cymru, ond credaf y gallwn eisoes gytuno â chasgliadau Michael Russell, o bwyllgor Brexit yr Alban, pan ddywedodd yn ei lythyr at David Davis ddoe ei bod yn amlwg, beth bynnag arall y gallant ei gynnwys, nad yw'r adroddiadau hyn yn cynnwys unrhyw ddadansoddiad gwirioneddol o'r effaith.
Yng nghyd-destun Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnal dadansoddiad o'r fath. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o atodiadau i'r Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr a oedd yn nodi'r dadansoddiad economaidd a oedd wrth wraidd y casgliadau y daethom iddynt yn y Papur Gwyn hwnnw. Roedd ein dogfen 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn cynnwys dadansoddiad helaeth gan Goleg y Brenin Llundain a chan y brifysgol yma yng Nghaerdydd mewn perthynas â mudo a'i effaith yn sectoraidd yma yng Nghymru. Fel yr addewais i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad sectoraidd mwy manwl, sy'n cael ei gynnal ar ein rhan gan Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud hwnnw'n gyhoeddus ym mis Ionawr.
Rwy'n synnu clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn beirniadu Llywodraeth y DU am ddiffyg tryloywder a didwylledd yn y cyswllt hwn, oherwydd gwnaed cais tebyg i Lywodraeth Cymru gan ymchwilwyr o fy swyddfa ar 13 Hydref—i'r Prif Weinidog—i gyhoeddi dogfennau sy'n ymwneud â dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar Gymru, a'r ateb a gawsom oedd hwn:
Mae'r trafodaethau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn parhau ac nid oes arwydd clir o beth fydd y sefyllfa o ganlyniad i hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ystod o ganlyniadau a goblygiadau posibl i Gymru ac mae'r gwaith yn datblygu'n gyson wrth i'r trafodaethau ddatblygu ac felly nid yw'n gyflawn eto. Nid wyf yn credu y buasai rhyddhau gwybodaeth ar y cam hwn o fudd i'r cyhoedd yn ehangach.
Felly, onid yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i arweinydd Plaid Cymru yn rhagrith o'r mwyaf?
Mae hynny'n hurt, Lywydd, fel y gallwch ddweud. Rwyf eisoes wedi egluro bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfres o ddogfennau dadansoddol yn gyhoeddus pan fônt yn y cyflwr datblygedig y mae angen iddynt fod ynddo er mwyn dylanwadu'n briodol ar y ddadl.
Cefais fy holi'n gyntaf am ddogfennau roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi'u disgrifio'n wreiddiol fel dogfennau sy'n cynnwys asesiadau effaith manwl ar draws 58 sector. Daeth yn amlwg wedyn, yn ei eiriau ei hun, nad dyna oeddent o gwbl. Ond rydym yn haeddu bod mewn sefyllfa lle y gallwn farnu hynny drosom ein hunain a gorau po gynharaf y cânt eu rhyddhau'n llawn i'r cyhoedd i ni allu gwneud hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.