Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi ychwanegu ymhellach at y cwestiynau hynny—oherwydd mae'r honiadau a wnaed gan Leighton Andrews yn rhai penodol iawn—a ofynnwyd am ymchwiliad ffurfiol gan y Prif Weinidog mewn ymateb i'r honiadau, neu'r pryderon neu'r materion, y soniodd wrth y Prif Weinidog yn eu cylch?