Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Buasai'n dda cael atebion i hynny a'r holl gwestiynau eraill fel rhan o'r ddadl hon. Ond o fethu gwneud hynny, mae angen eu hateb rywsut.
Nawr, safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â hyn yw hyrwyddo mwy o graffu. Rydym eisiau i gymaint o'r ffeithiau ag y bo modd gael eu sefydlu. Rydym yn nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn barod i wynebu craffu, ac eto mae gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw yn llwyddo i gau un llwybr i'r craffu agored a thryloyw hwnnw allu digwydd, hyd yn oed os yw'n creu llwybr arall.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ei fod wedi gwrando ar y rhai sydd wedi galw am broses atgyfeirio annibynnol a bod cod y gweinidogion wedi cael ei ddiwygio. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers amser am sefydlu rhyw fath o ddyfarnwr annibynnol i blismona cod y gweinidogion. Nid yw'n iawn o gwbl fod y Prif Weinidog yn blismon, yn farnwr a rheithgor mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion, ac yn arbennig, nid yw'n iawn ei fod yn gyfrifol am blismona ei ymddygiad ei hun.
Galwasom yn gyntaf am ddyfarnu annibynnol o'r fath yn ôl yn 2014, wrth drafod mater heb gysylltiad â'r mater hwn, a galwasom amdano wedyn yn 2016. Mae gan yr Alban gynghorydd annibynnol ar waith ac wedi bod ers 2008, ac mae'r weithdrefn wedi'i defnyddio yno chwe gwaith ers ei chyflwyno. Felly, mae newid safbwynt ar y pwynt hwn gan y Llywodraeth i'w groesawu, ond mae'n codi'r cwestiwn pam ein bod wedi gorfod cael y cynnig hwn, er ei fod wedi'i eirio'n wael, i orfodi'r Llywodraeth i roi camau ar waith. Pam y cymerodd y posibilrwydd o graffu cyhoeddus wedi'i gofnodi i wneud i hyn ddigwydd? A yw'n iawn fod y Llywodraeth, drwy daro'r chwip, yn pennu'r broses ar gyfer rhoi sylw i'r mater hwn?
Y broblem yma i Blaid Cymru yw bod y Llywodraeth wedi gosod gwelliant dileu popeth, a thrwy wneud hynny, mae plaid y Llywodraeth yn cael penderfynu sut y caiff arweinydd y Llywodraeth ei graffu. Rydym wedi bod eisiau'r math hwn o wyliadwriaeth ar god y gweinidogion ers amser hir, a phe bai'r Llywodraeth wedi gwneud hyn o'r blaen, efallai y buasent wedi osgoi rhai o'r problemau y maent yn eu hwynebu heddiw. Ond ni allwn gefnogi defnyddio un ffurf ar graffu i ddileu math arall o graffu. Rydym eisiau'r dyfarnwr annibynnol yn ogystal â chraffu seneddol llawn. Nawr, mae'n debygol y bydd gwelliant y Llywodraeth yn pasio, ac rwy'n gresynu at hynny. Mae Plaid Cymru o'r farn fod lle i'r ddwy ffurf ar graffu. O ganlyniad, byddwn yn pleidleisio dros y cynnig ac yn erbyn gwelliant y Llywodraeth.
Hoffwn i blaid y Llywodraeth ystyried hyn: a ydych yn credu ei bod yn edrych yn dda i chi gael eich gweld fel pe baech yn osgoi craffu llawn? Buaswn yn dadlau fel arall. Os na fu unrhyw fwlio, ac os nad oes unrhyw faterion eraill a ddylai beri pryder i bob un ohonom yn y ffordd y caiff y Llywodraeth ei rhedeg a diwylliant y Llywodraeth, yna ni ddylid ofni proses lawn ac agored. Dadleuon technegol yw dadleuon fod y pwyllgor arbennig hwn yn rhy fawr ac afrosgo. Mae yna egwyddor yn y fantol yma. A ydym yn tynnu sylw cyhoeddus, agored a gonest at yr honiadau hyn, neu a ydym yn caniatáu i'r Prif Weinidog benderfynu ar y broses y mae'n atebol iddi? Un ateb yn unig a ddylai fod i'r cwestiwn hwnnw yn ôl cyfiawnder naturiol.