Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Yn hollol, ac rwy'n cytuno'n gryf gyda'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a dyna pam y dylai'r ymchwiliad hwn fynd yn ei flaen gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Nawr, gadewch i mi atgoffa'r Aelodau mai rhan allweddol o'r ymchwiliad hwn yw ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Cynulliad ysgrifenedig gan Aelod o'r wrthblaid. Gwnaeth y Prif Weinidog hi'n gwbl glir ym mis Tachwedd 2014, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, nad oedd unrhyw honiadau wedi'u gwneud, ac eto, mewn ymateb i gwestiwn llafar yn y Cynulliad, mae'r Prif Weinidog wedi nodi bod unrhyw faterion a ddaeth i'w sylw ar y pryd wedi cael eu trin. Yn wir, byddai ymchwiliad y pwyllgor nid yn unig yn ystyried ymddygiad y Prif Weinidog a'i swyddfa, ond hefyd ymateb y Prif Weinidog a'i agwedd tuag at fusnes y Cynulliad. Os gall Gweinidogion newid eu hatebion ar gyfer eu craffu gan y Cynulliad, beth y mae hynny'n ei ddweud am ein sefydliad? Felly, mae'n gwbl briodol fod y Prif Weinidog yn wynebu cwestiynau gan un o bwyllgorau'r Cynulliad ac wrth gwrs, y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yw'r pwyllgor mwyaf addas.
Hefyd hoffwn atgoffa Llywodraeth Cymru fod eu rheolwr busnes eu hunain wedi dweud yn gwbl glir yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos diwethaf ei bod yn hapus i weld yr ymchwiliad hwn yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mor fuan â phosibl. Felly, mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dewis cefnu ar ei safbwynt cychwynnol, ac mae hyn yn anfon neges arall eto i bobl Cymru nad yw Llywodraeth Cymru ond yn ateb cwestiynau pan fo'n teimlo fel gwneud hynny, ar ei thelerau ei hun.
Yn fy marn nid yw'r pendilio ar y mater hwn wedi helpu enw da y Cynulliad o gwbl, ac mae'n bryd bellach i'r mater hwn gael ei drin yn effeithiol drwy ein sianeli craffu cadarn ein hunain. Os yw'r enw 'Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog' yn dweud unrhyw beth wrth bobl Cymru, mae'n dangos ei fod yn cyfarfod i graffu ar waith y Prif Weinidog. Cylch gwaith y pwyllgor, fel y nodir ar wefan y Cynulliad, ac rwy'n dyfynnu, yw craffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Cau'r dyfyniad. Felly, ni allai'r ymchwiliad hwn fodloni meini prawf y cylch gorchwyl yn fwy digonol. Nawr, os yw Llywodraeth Cymru yn diwygio'r cynnig hwn heddiw drwy osgoi'r llwybr craffu hwn, yna mae'n dweud wrth bobl Cymru, i bob pwrpas, nad yw'r pwyllgor ond yn craffu ar waith y Prif Weinidog pan fo'r Prif Weinidog yn dymuno iddo wneud hynny. Ac mae safbwynt—. Ac mae safbwynt Aelod Cynulliad Llafur dienw, mewn adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf, y buasai'r broses hon yn arwain at 'ffrae wleidyddol' yn gwbl hurt. Nid yw'n dangos unrhyw barch at Aelodau'r Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, ac mae hynny'n frawychus a dweud y gwir, gan fod pob un o'r Aelodau hynny yn Gadeirydd pwyllgor a etholwyd yn ddemocrataidd i'w swydd gan y Cynulliad hwn. Ffurfiwyd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, nid yn unig gan rai o'n Haelodau Cynulliad mwyaf profiadol, ond gan y rhai sy'n wynebau blaen y broses o graffu ar Lywodraeth Cymru. A gallaf glywed mwmian o'r meinciau Llafur. Os oes rhywun am ymyrryd ar y pwynt hwnnw, rwy'n eithaf parod i ildio. Nac oes.
Nawr, yn fy marn i, fel rhan o'r ymchwiliad, dylai'r pwyllgor gymryd tystiolaeth gan amrywiaeth o dystion. Rhaid i'r tystion hynny gynnwys nid yn unig y Prif Weinidog, ond hefyd ei staff a'i swyddfa ar y pryd, yn ogystal â chyn-Aelodau a chyn-gynghorwyr arbennig, fel y gall y pwyllgor fod yn hyderus fod yr ystod o dystiolaeth a gafwyd yn gytbwys ac yn gynhwysfawr. Credaf hefyd y dylai'r pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018. Mae'n bwysig fod ffocws a chyfeiriad yn cael eu rhoi i'r ymchwiliad o'r cychwyn cyntaf.
Dylai cylch gorchwyl ymchwiliad y pwyllgor ystyried y pwyntiau a godwyd yn y cynnig heddiw hefyd. Mae'n gwbl hanfodol fod yr honiadau'n cael eu harchwilio'n drylwyr, a chamau'n cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i gwynion am fwlio. Ac fel y soniais yn gynharach, mae dilysrwydd yr atebion a roddir gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â honiadau o'r fath yn rheswm allweddol pam y dylai'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal yr ymchwiliad hwn yn y lle cyntaf. Ac felly, rhaid i ymateb y Prif Weinidog i gwestiynau'r Cynulliad gael sylw sylweddol fel rhan o'r ymchwiliad hwn. Fan lleiaf, mae angen egluro hyn fel y gall pobl Cymru fod â hyder llawn yng ngwaith Llywodraeth Cymru.
Nid yw gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig hwn ond yn dangos ymgais y Prif Weinidog i bennu ei broses graffu ei hun drwy fynd ati ei hun i benodi cynghorydd annibynnol i ymchwilio i'w weithredoedd yn y pythefnos diwethaf. Nid oes unrhyw gadarnhad ychwaith na fydd unrhyw graffu cyhoeddus gan gynghorydd y Prif Weinidog, ac yn sicr ni cheir cadarnhad yn y gwelliant y bydd ymchwiliad y Prif Weinidog ei hun yn ystyried ei ymatebion i gwestiynau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn gwirionedd, nid yw ond yn dweud y bydd yn ystyried honiadau a wnaed yn ystod y bythefnos diwethaf.
Felly, i gloi, Lywydd, bu sôn yn yr wythnosau diwethaf am sicrhau cyfiawnder naturiol, ac nid yw ymchwiliad a osodwyd ar delerau'r Llywodraeth ei hun y tu ôl i ddrysau caeedig yn gosod yr agenda honno. Fforwm cyhoeddus a thryloyw yw un o'r cyfryngau ar gyfer cyflawni hynny, ac felly mae'n gwbl briodol fod y cynnig hwn yn cael ei ganiatáu i basio. Yn wir, mae'r Cynulliad bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn fforwm agored a thryloyw, ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithredu yn y modd hwn. Ni ddylai unrhyw Aelod rwystro'r broses hon rhag digwydd. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn ac anfon neges i bobl Cymru fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhydd i graffu ar waith y Prif Weinidog pan fo cyfle'n galw am wneud hynny.