Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod. Yn amlwg, mae pawb ohonom yn croesawu'r ffaith fod proses ddyfarnu annibynnol yn cael ei chreu ond fel y dywedwyd eisoes, ni ddylai hynny byth olygu nad yw'r Prif Weinidog felly yn ddarostyngedig i graffu seneddol arferol gan Aelodau'r lle hwn, ac rwyf fi, ac Aelodau eraill bellach mae'n debyg, wedi cael atebion ysgrifenedig i gwestiynau ysgrifenedig lle mae'r Prif Weinidog yn gwrthod ateb y cwestiynau hynny am ei fod yn dweud y cânt eu cyfeirio'n briodol bellach i'w dyfarnu'n annibynnol. Wel, ni all hynny fod yn dderbyniol o gwbl. Rydym wedi ein hethol i'r lle hwn i ddwyn y Prif Weinidog i gyfrif, ac ni ddylent ddefnyddio'r ymchwiliad annibynnol fel esgus i beidio ag ateb cwestiynau.