5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:44, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl tybed a fuasai'r Aelod hefyd yn ystyried y ffaith, beth bynnag sydd wrth wraidd penderfyniad y Prif Weinidog i gyfeirio ei hun at ddyfarnwr annibynnol yn hwyr iawn yn y dydd, fod gennym broblem o hyd ynglŷn â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth y Cynulliad hwn ar sawl achlysur—yr anghysondebau rhwng yr hyn a ddywedodd wrth y Cynulliad ar sawl achlysur—a'r diffyg atebion a gawsom hyd yma, ac rydym angen proses seneddol i fynd at wraidd hynny.