Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Yn hollol, a dyna pam y mae'n hanfodol bellach bod y mater hwn yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Er fy mod yn sylweddoli nad oes cynsail i ni ei ddilyn yn hyn o beth, caniatáu i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal yr ymchwiliad hwn yw'r ffordd fwyaf tryloyw ac effeithiol o symud ymlaen yn fy marn i. Nawr, roedd y Prif Weinidog wedi dweud yn glir ei fod yn agored i graffu mewn perthynas â'r honiadau a sut y cawsant eu trin gan ei swyddfa ar y pryd, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny. Ceir nifer o gwestiynau dilys y mae angen eu hateb yn llawn fel y gall pobl Cymru fod yn hyderus fod unrhyw honiadau a wnaed wedi cael eu trin mewn ffordd drylwyr ac wedi'u cofnodi yn unol â hynny.
Mae'n hanfodol fod y Cynulliad yn derbyn y cynnig ger ein bron y prynhawn yma fel y gall y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog fwrw ymlaen â'r gwaith o ofyn y cwestiynau dilys hynny cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad i ddiwygio'r cynnig drwy ddileu'r gofyniad am ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Fel y soniais yn gynharach, nid ydym yn gwybod beth fydd y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y cynghorydd annibynnol a pha un a fydd tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw yn destun craffu cyhoeddus. Os nad yw'r Llywodraeth eisiau ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, mae'n ymddangos i mi ei bod yn awgrymu nad yw ond yn mynd i dderbyn craffu ar y mater hwn cyn belled ag y bo ar ei thelerau ei hun.
Yn wir, pan gafodd ei holi ddoe, gwrthododd y Prif Weinidog ddweud yn bendant a fyddai'n pleidleisio ar y cynnig hwn y prynhawn yma hyd yn oed, gan roi'r argraff eto na fydd craffu ar ei waith ef a'i swyddfa ond yn digwydd ar delerau'r Llywodraeth. Er nad oes dim yn y Rheolau Sefydlog presennol sy'n gwahardd y Prif Weinidog rhag pleidleisio ar y cynnig hwn, a yw'n foesol gywir i'r Prif Weinidog osod yr agenda ynglŷn â chraffu ar ei waith ei hun? Buaswn yn dadlau fod gwrthdaro buddiannau yma, a buaswn yn gobeithio—buaswn yn gobeithio—y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio'i ddisgresiwn ac yn peidio â chymryd rhan yn y bleidlais y prynhawn yma. Rwy'n ildio.