5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:13, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwy'n gwrando gyda diddordeb mawr ar yr hyn y mae'n ei ddweud am ei rôl flaenorol ac yn ei rôl bresennol. Yr hyn nad wyf yn glir ei gylch ar hyn o bryd yw a yw'n dweud bod y pwyllgor a grybwyllir yn y cynnig, sef y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog—dyfynnwyd eisoes fy mod wedi dweud ei fod yn eithaf afrosgo at y diben hwn—a yw o'r farn fod hwnnw'n amhriodol, neu a yw'n dweud ei bod yn amhriodol fod unrhyw graffu seneddol ar ymddygiad y Prif Weinidog yn digwydd o gwbl, oherwydd credaf ei fod yn crwydro'n beryglus o agos at y casgliad hwnnw.