Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n cydnabod y camau a gymerwyd gan y Prif Weinidog. Fel y deallaf, roedd yn ymateb i lythyr a anfonais ato ar 10 Tachwedd yn gofyn iddo gynnal yr ymchwiliad hwnnw a'i sefydlu. Ond hoffwn wneud y pwynt fod y cylch gorchwyl, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ymwneud yn benodol â 2014 a'r sylwadau a wnaed yn y cyfryngau yn ystod y pythefnos y buom yn cyfarfod yma. Nid yw'n adlewyrchu'r honiadau ehangach a wnaed yn erbyn swyddfa'r Prif Weinidog a'r Prif Weinidog ei hun gan y cyn-gynghorydd arbennig.