Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch i'r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae wedi ateb—[Anghlywadwy.]
Buaswn wedi meddwl mai dull annibynnol, mewn gwirionedd, fuasai'r ffordd fwyaf amlwg o ateb y gofyniad hwnnw, ac fel y nododd, gwnaeth y cais hwnnw yn ei lythyr ei hun at y Prif Weinidog, gan ddweud bod penodi trydydd parti annibynnol i gynnal ymchwiliad yn llwybr anrhydeddus pan oedd Prif Weinidog yr Alban yn wynebu honiadau tebyg. Felly, gallwn ofyn: beth sydd wedi newid ei feddwl? Credaf ei fod wedi ceisio amlygu'r pwynt hwnnw yn awr, ond os oedd yn anrhydeddus ar 14 Tachwedd i'r Alban, pam nad yw felly yn awr i Gymru?
Mae'r cynnig yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyflawni'r gwaith hwn ac er bod y pwyllgor yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, nid yw, yn anffodus, yn annibynnol ar y sefydliad hwn. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r dadleuon a leisiwyd y prynhawn yma—na ddylai hyn fod yn rheswm i'r pwyllgor beidio â gwneud y gwaith hwn. Ac fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n credu yn ei uniondeb a'i wrthrychedd, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn. Ond yn anffodus, mae rhai y tu allan i'r sefydliad hwn a fuasai'n cwestiynu hynny.
Nawr, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, gobeithiaf fod yr Aelodau hefyd yn cydnabod fy mod yn aml yn dwyn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol; nid wyf yn ofni gofyn cwestiynau anodd a heriol. Ond wrth inni chwilio am y gwir drwy'r atebion hynny, rhaid inni hefyd fod yn onest â ni'n hunain a chydnabod y bydd cwestiynau'n cael eu codi ynglŷn â'n hannibyniaeth. I'r graddau hynny, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid braidd yn ddrygionus ddoe. Nid wyf am ymhelaethu, gan fod Lynne Neagle eisoes wedi codi pwyntiau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Jeremy Miles ar raglen Sunday Politics Wales, a gwrandewais arni sawl gwaith i gadarnhau yn union hynny. Mae'n bwysig edrych ar y cyd-destun, a'r cyd-destun oedd nad yw'n anodd dychmygu pe bai'r pwyllgor yn cyrraedd canlyniad gwahanol, buasai hynny'n cael ei feirniadu am na fuasai'n cael ei ystyried yn annibynnol. Dyna'r cyd-destun clir—