Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rhaid i'r ymchwiliad fod yn annibynnol, pwynt sydd wedi'i dderbyn, rwy'n credu, gan arweinwyr yr holl bleidiau yn y Siambr hon. Rhaid i'r broses fod yn annibynnol. Rhaid i'r person sy'n cynnal yr ymchwiliad ac sy'n cyflawni'r adroddiad fod yn gymwys i gynnal ymchwiliad o'r fath ac yn gwbl annibynnol os yw'r canlyniad i gael ei barchu ac yn mynd i ennyn hyder y cyhoedd.
Rydym yn sefydlu egwyddorion a chynsail yn y cynnig hwn, a bydd eu hangen i wrthsefyll prawf amser ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad, y cynnig i'r mater hwn gael ei gyfeirio at gynghorydd annibynnol o dan god y gweinidogion yw'r gorau o bell ffordd a'r ffordd fwyaf priodol o weithredu.