Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n teimlo bod y ddadl y prynhawn yma yn anhygoel o anodd ac yn anghyfforddus. Mae llawer yr hoffwn ei ddweud, ond credaf y buasai'n ddoeth peidio â'i ddweud ar hyn o bryd. Ymhen deuddydd, byddwn yn claddu ein cyd-Aelod a'n ffrind, ac rwy'n credu bod rhywbeth yn anweddus ynglŷn â chael dadl o'r fath a hynny heb ddigwydd eto. Rwy'n gresynu at y ffordd y mae pobl wedi defnyddio'r drychineb hon i dalu'r pwyth yn ôl o'u hamser yn y Llywodraeth. Credaf fod y Prif Weinidog, er clod iddo, wedi sefydlu dwy broses annibynnol ar wahân, rhywbeth na wnaed erioed o'r blaen. Mae angen rhoi amser i'r rheini ddod i'w casgliadau. Nodaf yr hyn a ddywedwyd am broses seneddol i ddigwydd wedyn ac rwy'n credu mai dyna fydd yr adeg gywir—pan fydd amser wedi bod i fyfyrio a chael tystiolaeth—i gael y ddadl honno.
Ni chaf unrhyw anhawster gyda'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod wedi i'r adroddiadau hynny gael eu cyhoeddi ac i broses graffu briodol ddigwydd, ond nid heddiw yw'r diwrnod hwnnw.
Fe'm trawyd bythefnos yn ôl pan ddaethom at ein gilydd i dalu teyrnged i Carl Sargeant gan y cwrteisi a ddangoswyd yn y Siambr hon, ac rwy'n siomedig ynglŷn â'r cywair a gafwyd y prynhawn yma. Roedd sylwadau arweinydd yr wrthblaid ar ei eistedd i fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, yn arbennig o ffiaidd, ei bod wedi cymryd swllt—