Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Credaf fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon pan ddywedaf ein bod i gyd yn cytuno â'r hyn rydych wedi'i nodi, o ran gallu dyfarnwr annibynnol i ofyn cwestiynau manwl ac i gyflawni rôl ddefnyddiol. Ond a wnewch chi gyfaddef mai camgymeriad mawr ar ran y Llywodraeth hon, a Llywodraethau blaenorol, oedd gwrthod mynd ati'n rhagweithiol i sefydlu swydd dyfarnwr annibynnol, ac oherwydd bod y Llywodraeth mewn sefyllfa anodd, mae pobl yn gweld hyn—yn canfod hyn—fel y dywedais yn gynharach, fel ffordd o geisio osgoi craffu cyhoeddus? Mae'n rhy hwyr i chi i sefydlu hyn a honni ei fod yn rhywbeth rydych bob amser wedi'i gefnogi, rywsut. Fe wrthodoch chi wneud hyn yn y gorffennol.