Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Roeddwn i'n arfer gweithio fel swyddog prawf, iawn, ac a allwch ddychmygu sefyllfa lle roedd cleient i'r gwasanaeth prawf yn gallu penderfynu ar y broses ar gyfer ymchwilio, profi a chlywed eu sefyllfa eu hunain? A allwch ddychmygu sefyllfa lle y câi hynny ei ganiatáu a lle y câi ei alw'n gyfiawnder naturiol? Ni fuasai byth yn digwydd, na fuasai?