Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Dim o gwbl. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyfeirio honiadau at gomisiynydd annibynnol.
Mae'r rhain yn faterion a allai gael eu trin, ac sydd yn cael eu trin yn fwy priodol o dan god y gweinidogion, ond dylid ymchwilio iddynt y tu allan i'r broses wleidyddol a chan rywun sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol. Mae cod y gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog ynglŷn â safonau ymddygiad ac ymddygiad personol gweinidogion. Mae'r cod yr un mor berthnasol i'r Prif Weinidog.
Rydym yn cydnabod, hyd yn hyn—