Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A wnewch chi ildio? Rwy'n gwrando arni'n ofalus iawn, oherwydd, yn amlwg, fel arweinydd y tŷ, mae ganddi gyfrifoldeb ehangach—hi yw arweinydd y tŷ cyfan. A yw hi'n awgrymu bod ein hawl, ein gallu, ein cyfrifoldeb, mewn gwirionedd, fel Aelodau o'r Senedd hon i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi'u cyfyngu, rywsut—fod yna rai meysydd nad ydym i fynd iddynt? Oherwydd, fel y dywedais wrthi, rwyf bellach wedi cael atebion ysgrifenedig mewn perthynas â chwestiynau penodol, fel y mae Aelodau eraill, lle mae'r Prif Weinidog bellach yn defnyddio'r ymchwiliad annibynnol fel tarian rhag craffu priodol. Fel arweinydd y tŷ, does bosibl ei bod yn dymuno amddiffyn hynny.