Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n credu bod y ddau'n bwysig ym meddwl y cyhoedd. Yn y pen draw, os nad yw pwyllgor pwysig—prif bwyllgor y Cynulliad hwn, buaswn yn awgrymu—o holl Gadeiryddion y Cynulliad yn dod ynghyd ac yn craffu ar y Prif Weinidog ynglŷn â honiadau a wnaed yn gallu cyflawni'r gwaith craffu hwnnw, mae rhywbeth mawr o'i le. Fe gymeraf ymyriad mewn munud. Rwy'n pwyso ar sylwadau agoriadol Paul Davies. Caiff y pwyllgor hwn ei gynnull o blith Cadeiryddion y Cynulliad a etholir gan y Cynulliad cyfan. Nid rhai a benodwyd gan y pleidiau ydynt. Ni chaiff ei chwipio, rwy'n tybio, fel y gallai pwyllgorau eraill gael eu chwipio mewn perthynas â phleidleisiau penodol. Fel y dywedais yn fy sylwadau, ni fydd neb yn hapusach yn y Siambr hon os gellir gwrthbrofi'r cyhuddiadau hyn. Nid yw'n flaenoriaeth wleidyddol na'n naratif gwleidyddol i gefnogi bwlio, bygwth ac amgylchedd gwaith gwenwynig. Yn sicr, nid oes yr un ohonom yn goddef hynny, ac mae angen inni fynd at wraidd yr honiadau hyn.