5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:40, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am ildio ar y pwynt hwn, oherwydd un o'r pethau y credaf ein bod wedi colli ffocws arno mewn rhai rhannau o'r ddadl hon yw'r syniad hwn o gynnal proses seneddol gyhoeddus ar gyfer gofyn cwestiynau allweddol. Un o'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn, na chaf ei ofyn yn awr mewn fforwm mor gyhoeddus, ymddengys i mi, oherwydd ein bod yn mynd i bleidleisio mewn modd penodol, yw: beth oedd y diffiniad o fwlio a ddefnyddiodd y Prif Weinidog pan ddywedodd na wnaed unrhyw honiadau penodol o fwlio? Oherwydd mae polisi urddas yn y gwaith Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud yn glir nad oes angen i chi honni mai bwlio ydyw; mae'n batrwm o ymddygiad y dylid ymchwilio iddo, a gallwn wneud hynny'n ddefnyddiol mewn arena gyhoeddus agored. A buasem yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, nid yn unig drwy gael arbenigwyr sydd â gallu cyfreithiol yn briodol i graffu ar y pethau hyn yn annibynnol, ond hefyd drwy herio'r dystiolaeth honno mewn fforymau cyhoeddus agored.