7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:59, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae ein bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru mewn mesurau arbennig ac wedi gorwario oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod ein rhybuddion dros nifer o flynyddoedd. Ar bob achlysur, mae Gweinidogion Llafur wedi osgoi'r cyfrifoldeb gan ein cyhuddo ni yn lle hynny o ladd ar ein GIG pan fyddwn yn siarad oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn inni wneud hynny. Rhoddwyd y bwrdd o dan fesurau arbennig yn 2015 ar ôl i ymchwiliad allanol ddatgelu bod cleifion wedi dioddef cam-drin sefydliadol yn uned iechyd meddwl acíwt Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd ar y pryd yn y pen draw fod y penderfyniad hwn yn adlewyrchu, ac rwy'n dyfynnu:

pryderon difrifol a heb eu datrys ynghylch arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi cael rhybudd ynghylch phryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan yn uned Ablett ym mis Rhagfyr 2013, ond roedd pryderon ynglŷn â'r ward hon yn mynd yn ôl lawer ymhellach. Er enghraifft, yn 2009, cynrychiolais etholwr a ddywedodd fod y driniaeth a gafodd ei gŵr yno bron iawn â'i ladd, fod tri chlaf arall a gafodd eu derbyn o gwmpas yr un adeg â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg, ac roedd hi bellach yn poeni am y driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned hon.

Wrth gwrs, cafwyd rhai agweddau cadarnhaol ers y mesurau arbennig. Yn dilyn fy ymyrraeth ar ran y ganolfan niwrotherapi yn Sir y Fflint, lle roedd cyllid y bwrdd iechyd wedi disgyn i £65 y person yn unig o gymharu â £500 gan gomisiynwyr yng Ngorllewin Swydd Gaer, cadarnhaodd prif weithredwr y bwrdd iechyd fframwaith ar gyfer y dyfodol.

Pan ymwelais â staff gwych yn Ysbyty Maelor Wrecsam yr haf hwn gydag Ymddiriedolaeth Hepatitis C, dywedasant wrthyf fod yna opsiynau triniaeth cynhwysfawr bellach. Fodd bynnag, roeddent yn ychwanegu y buasai gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru'n gofyn amdano yn galw am gael rhwng chwech a naw nyrs hepatoleg arbenigol ychwanegol ar draws y bwrdd iechyd. Rydym wedi gweld cleifion yn aros misoedd am driniaeth rheoli poen.

Y prynhawn yma, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod practis meddyg teulu arall eto'n cau. Er bod mesurau arbennig wedi arwain at rywfaint o symud oddi wrth drin cwynion er mwyn osgoi risg tuag at ddatrys problemau drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag achwynwyr, mae cynnydd wedi arafu. Roedd ymateb diweddar i gŵyn ynghylch claf a fu farw tra'n derbyn triniaeth gan y bwrdd iechyd yn enghraifft nodweddiadol o hyn. Er bod y bwrdd wedi ymddiheuro ac wedi datgan bod y gŵyn wedi'i harchwilio yn unol â rheoliadau, daeth i'r casgliad dideimlad, ac rwy'n dyfynnu, nad oedd unrhyw rwymedigaeth gymhwyso ar yr achlysur hwn.

Roedd y teulu mewn gofid dwys a dywedasant wrthyf fod yr ymateb yn cynnwys nifer o wallau ffeithiol.

Betsi Cadwaladr yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru nad yw'n comisiynu gwasanaethau gan ganolfan therapi plant Bobath, sy'n darparu ffisiotherapi arbenigol, therapi alwedigaethol a therapi iaith a lleferydd i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd. Mae'r gost i'r gweddill yn fach iawn a'r arbedion yn enfawr. Gyda'r ganolfan, a rhiant o ogledd Cymru y mae eu merch wedi cael y cymorth hwn, cyfarfûm â'r bwrdd iechyd ddwywaith i chwilio am ffordd ymlaen. Roedd ganddynt adroddiad drafft a gopïwyd ar ein cyfer i ni wneud sylwadau arno. Ymatebodd pob un ohonom ar y ddealltwriaeth glir y byddai ymgysylltu teuluol ehangach ond yn dilyn wedi i'n sylwadau gael eu cynnwys yn yr adroddiad drafft. Yn lle hynny, cyhoeddwyd yr adroddiad drafft heb ei ddiwygio i rieni gyda holiadur, a oedd yn gogwyddo'n annheg tuag at ddarparu gwasanaethau mewnol, yn hytrach na'r ddarpariaeth sydd ar gael gan Bobath o safon y tu hwnt i'r hyn y gall y bwrdd iechyd ei ddarparu. 

Ar ôl i asesiadau awtistiaeth gael eu gwrthod iddynt, mae rhieni sawl merch wedi dweud wrthyf nad yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, a bod awtistiaeth yn wahanol mewn merched. Er iddynt gael eu gorfodi i dalu am asesiad awtistiaeth preifat, dywedodd llythyr yn 2017 gan y bwrdd iechyd fod CAMHS Sir y Fflint wedi mynegi pryderon ynghylch trylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat, ac mewn rhai achosion nid oeddent yn derbyn y diagnosis, a bod gofyniad i'r rhain gydymffurfio â chanllawiau NICE. Fodd bynnag, pan gyfeiriais hyn at y seicolegydd clinigol a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, cadarnhaodd nid yn unig ei bod hi a'i thîm yn cydymffurfio â NICE, ond hefyd ei bod yn cyfrannu at ganllawiau NICE.

Mae'r dull hwn o weithredu'n helpu i egluro pam y nodwyd y nifer uchaf o achoson difrifol o dorri amodau diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd hwn o blith holl ysbytai Cymru, pam y mae ganddo'r record waethaf mewn perthynas â chleifion sy'n aros dros bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a chyda Cymru â dwywaith y lefel yn Lloegr o gleifion sy'n aros am driniaeth, pam y cynyddodd nifer y cleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth gyffredinol 2,550 y cant, fel y clywsom yn gynharach, o 94 ar yr adeg pan roddwyd y mesurau arbennig ar waith i 2,491 yn mis Medi 2017. Ni all hyn barhau.