Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydym wedi gwrando ar nifer o areithiau grymus iawn sy'n dangos cymaint o drychineb yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan lywyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'r un blaenorol sydd wedi gadael y Siambr dros dro. Nawr, ers blynyddoedd maith, mae'r Blaid Lafur wedi arfer dweud bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn destun eiddigedd y byd. Wel, o ran Betsi Cadwaladr, nid wyf yn gwybod pa fyd y maent yn ei feddwl—rhaid mai planed Plwto, oherwydd yn sicr nid yw'n destun eiddigedd i neb ar y ddaear hon.
Nododd Michelle Brown bwynt pwysig iawn yn ei haraith yn gynharach, sef diffyg ymateb bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i'w gleifion mewn perthynas â'r cwynion y maent wedi eu gwneud. Rydym wedi cael rhes enfawr o enghreifftiau unigol yma y prynhawn yma, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at thema a nodais yn y Siambr ar sawl achlysur ers cael fy ethol: amddifadu ucheldiroedd Cymru o gwmpas Blaenau Ffestiniog o unrhyw ddarpariaeth iechyd o sylwedd. Mae ymhell dros flwyddyn bellach ers i mi holi'r Prif Weinidog beth oedd Llywodraeth Cymru'n mynd i wneud ynglŷn â hyn, o ystyried bod Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Dywedais fod y record yng Ngwynedd yn enwedig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, yn union i'r gwrthwyneb i'r hyn a honnai'r Llywodraeth yn yr adran ar iechyd yn ei dogfen 'Symud Cymru Ymlaen', lle roeddent yn dweud,
'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a llesiant pawb.'
Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn ucheldiroedd Cymru yn gyfan gwbl i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal llesiant a ddiffiniwyd gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty hyb cymunedol ym mhob un ar wahân i Flaenau Ffestiniog, am fod eu gwasanaeth 24 awr wedi cau sawl blwyddyn yn ôl a'i israddio'n ganolfan iechyd 10 awr, ac mae wedi'i israddio eto ers hynny. Ers 2013, felly, rydym wedi gweld ysbyty'n cau, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau uned mân anafiadau, cau clinigau teleddermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa gangen wledig wedi cau, ac roedd y practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog i fod i gynnwys pedwar o feddygon llawn amser, ond un meddyg cyflogedig yn unig sydd ganddynt ac amryw o staff locwm. O ran Blaenau Ffestiniog, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol; mae ganddynt wasanaeth iechyd damcaniaethol. Ac yn y 14 mis ers i mi gyflwyno'r feirniadaeth honno i'r Prif Weinidog, nid oes dim o gwbl wedi newid er gwaethaf y mesurau arbennig, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y peth.