7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:16, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am ddadl fywiog ac anodd, gyda llawer o feirniadaeth, ac mae hynny i'w ddisgwyl. Rwy'n cydnabod ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 2, gan ein bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu. Efallai y gallem fod wedi'i eirio'n wahanol, ond credaf ei bod yn anghywir i ni hollti blew ynglŷn â geiriau unigol yn y gwelliant. Rydym yn cydnabod yr her ganolog a wnaed ac a gafodd ei chydnabod yn y gwelliant.

Yn sgil gosod mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015, y meysydd a amlinellwyd ar gyfer gweithredu ar unwaith ar y pryd oedd: llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, gwasanaethau iechyd meddwl—y maes pryder mwyaf—gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ailgysylltu â'r cyhoedd, a gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu a gofal sylfaenol. Nawr, nid yw mesurau arbennig eu hunain yn gyfystyr â bod Llywodraeth Cymru'n cymryd rheolaeth uniongyrchol ac yn rhedeg y bwrdd iechyd. Mesurau arbennig yw'r lefel uchaf o ymyrraeth, ond mae'r bwrdd iechyd yn dal ar waith ac yn rhedeg gwasanaethau. Nid oes neb yn cyfarwyddo ym Mharc Cathays neu'n gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i redeg y sefydliad. Mae'r ymyrraeth sydd ar waith wedi gweithio ochr yn ochr â'r bwrdd a'r staff i geisio gwneud cynnydd a gwella gwasanaethau ac wedi cynyddu'n sylweddol ein goruchwyliaeth a'r trefniadau atebolrwydd.

Wrth gwrs, rwy'n gwerthfawrogi gwaith caled ein staff yn darparu gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru. Pan fyddaf yn ymweld â gogledd Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, byddaf yn cyfarfod â staff ac yn cael fy nghalonogi gan y gydnabyddiaeth a'r ymrwymiad sydd ganddynt i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Rwy'n falch fod pobl, yn y ddadl hon, yn cydnabod ymrwymiad ein staff, ond carwn ddweud yn garedig wrth bob Aelod ym mhob plaid—nid wyf am gyfeirio at unrhyw unigolyn penodol—wrth gydnabod ymrwymiad staff a'u gwaith caled, mae cyfeirio wedyn at y bwrdd iechyd fel trychineb neu mewn argyfwng yn tanseilio hynny. Mae'n tanseilio ac yn effeithio ar y staff ar y rheng flaen. Nid yw'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn bodoli ym mhob maes gweithredu. Mae cael y brwsh eang hwnnw'n effeithio ar y staff yn ogystal â'r wleidyddiaeth yn y lle hwn.

Yn natganiad y Llywodraeth ym mis Hydref 2015, nodais y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau o dan fesurau arbennig am o leiaf ddwy flynedd a bod angen cynlluniau hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn o sefydlogi er mwyn mynd i'r afael â heriau mwy sylfaenol sy'n bodoli, yn enwedig gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.

Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith gwella, sy'n nodi cerrig milltir ar gyfer cynnydd i'w cyflawni mewn tri cham: y cynllun gwella, os mynnwch. Cyflwynodd y bwrdd iechyd adroddiad ar y cam cyntaf ym mis Mawrth 2016, yr ail gam ym mis Rhagfyr 2016, a disgwylir adroddiad ar y trydydd cam ym mis Rhagfyr, fis nesaf. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal trydydd adolygiad o gynnydd ar y trefniadau llywodraethu, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni. Roedd yr adolygiad hwnnw'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r cyfeiriad cywir at ei gilydd. Nododd fod yr arweinyddiaeth wedi cryfhau, mae'r bwrdd yn gweithio'n fwy effeithiol ac mae mesurau arbennig yn helpu i ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen gweithredu.

Gwnaed cynnydd ar gyflawni nifer o'r cerrig milltir a osodwyd, gan gynnwys gosod gweithrediaeth lawn ar waith, gan gynnwys chwe phenodiad newydd ers cyflwyno mesurau arbennig. Rhoddwyd amser ac ymdrech i wella perfformiad y bwrdd gyda rhaglen ddatblygu barhaus, a nododd adolygiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu bod wedi gweld gwelliannau amlwg yn effeithiolrwydd y bwrdd. Fel y crybwyllwyd yma, caiff cwynion a phryderon eu harwain gan y cyfarwyddwr nyrsio bellach, a bu gwelliant sylweddol o ran ymatebolrwydd. Datblygwyd strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth â defnyddwyr a staff gwasanaethau, a chytunwyd arni ym mis Ebrill eleni. Cafwyd dull llwyddiannus o drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol ym Mhrestatyn, sy'n cael eu modelu bellach gan ennyn diddordeb nid yn unig ledled Cymru, ond ymhellach i ffwrdd yn ogystal.

Ar wasanaethau mamolaeth, un o'r heriau mwyaf sylweddol ar adeg gosod y mesurau arbennig, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, lleihau'r ddibyniaeth ar asiantaeth, o 50 y cant i 10 y cant. Erbyn hyn mae'r gwasanaeth yn cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae myfyrwyr bydwreigiaeth cyn cofrestru a symudwyd o Ysbyty Glan Clwyd yn 2015 i gyd wedi dychwelyd bellach, fel bod yr holl safleoedd ar draws y bwrdd iechyd yn cael eu defnyddio'n llawn at ddibenion hyfforddi. Ac wrth gwrs, mae gwaith ar y ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig yn mynd rhagddo'n dda, a disgwyliaf y bydd yr uned yn agor yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.