Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 29 Tachwedd 2017.
O ystyried eich sylwadau am yr argyfwng bancio, sut y buasech yn ymateb i gyhoeddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mis Ionawr 2009, a ddywedai fod
Llafur wedi mynd i mewn i'r argyfwng presennol gydag un o'r diffygion mwyaf yn ei chyllideb strwythurol yn y byd diwydiannol a dyled fwy na'r rhan fwyaf o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ar ôl gwneud llai i leihau dyled ac—yn arbennig—benthyca na'r rhan fwyaf ers 1997.
Mewn geiriau eraill, fe dorrodd Llafur y cylch economaidd Keynesaidd a gadael cyni ar ei ôl.