Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch i Nick Ramsay am o leiaf ymdrechu i gyfiawnhau’r gyllideb, ond yn ein barn ni, mae Cymru ar ei cholled yn dilyn cyhoeddi cyllideb a oedd wedi’i dylunio i dyfu economi de-ddwyrain Lloegr ar draul pob rhan arall o’r Deyrnas Gyfunol.
Cyllideb o gyni oedd hon ym mhob ystyr. Nid yn unig y cawsom ni addewid o fwy o lymder ariannol gan y Canghellor; mi gawsom ni hefyd ein hatgoffa o dlodi uchelgais y Ceidwadwyr, a’u diffyg tosturi pan fo'n fater o drin aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Prin ydy’r pynciau sydd wedi amlygu hyn yn fwy dros y misoedd diwethaf na chredyd cynhwysol.
Efallai bod angen rhoi croeso gofalus i gadarnhad y Canghellor y bydd pecyn gwerth £1.5 biliwn yn cael ei ryddhau i fynd i’r afael â’r problemau niferus sydd wedi codi yn sgil cyflwyniad y system hynod ddiffygiol yna. Ond, efallai mai cyfaddefiad bod y system yn torri lawr oedd hynny mewn gwirionedd.
O’r diwedd, ar ôl i filoedd o unigolion a theuluoedd ddioddef yn ddiangen, mi fydd Llywodraeth San Steffan yn cael gwared ar y cyfnod aros saith diwrnod. Serch hynny, ac yn ôl yr arfer, nid yw'r gyllideb wedi mynd ddigon pell ar gyfer pobl Cymru ar y mater o ddiwygio lles. Diolch i adroddiad yr IFS ar dlodi plant, rydym yn gwybod y bydd Cymru ymysg yr ardaloedd a fydd yn dioddef fwyaf yn sgil diwygio lles. Yn barod, rwy'n gweld llawer gormod o bobl yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd ac yn wynebu cael eu troi allan o'u tai o ganlyniad i'r llanastr mae'r Torïaid yn ei wneud o daliadau lles. Pan mae'n fater o warchod rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas, mae'r ysgrifen ar y mur.
Mae'n hen bryd datganoli gweinyddiaeth rhai elfennau o'r system lles i Gymru os ydym ni am amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf. Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i amrywio amlder taliadau, i roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, ac i sicrhau mai unigolion nid cartrefi fydd yn derbyn taliadau. Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Alban. Yno, mae Llywodraeth yr SNP wedi newid amlder y taliadau o rai misol i rai bob pythefnos; mae'r elfennau tai yn cael eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid; ac mae gofyn i Weinidogion gynnig cymorth i bobl sydd â'r hawl i hynny.
Wrth gwrs, diwedd y gân ydy'r geiniog ac mae yna nifer wedi honni yn y Siambr yma na all Cymru fforddio i gymryd yr awenau dros weinyddu elfennau o les. Ond, mae yna wers werthfawr i'w dysgu o achos yr Alban. Cafodd yr arian i weinyddu'r elfennau hynny a oedd yn nwylo San Steffan yn flaenorol ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r Alban fel rhan o'r grant bloc, ac felly nid oedd cost ychwanegol. Rwyf felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i negodi am setliad tebyg er mwyn i ni gael gweinyddu rhai elfennau o gredyd cynhwysol a'r system lles ein hunain. Wedyn, fe allwn warchod dinasyddion Cymru rhag polisïau creulon y Ceidwadwyr yn San Steffan. Mae'n bryd mynnu datganoli hyblygrwydd taliadau a'r elfen tai o gredyd cynhwysol, gyda'r amcan o sicrhau fframwaith cyllidol sy'n gallu hwyluso datganoli'r elfennau hynny.
Dyma siawns euraidd i brofi gwerth datganoli fel arf sydd yn gweithio er budd pobl Cymru. Dangoswn ni fod yna ffordd fwy cyfiawn, mwy cydradd a mwy caredig o lywodraethu. Dangoswn barodrwydd i weithredu elfennau o'r system lles ein hunain, er mwyn dangos bod yna ffordd well o wneud pethau er lles ein trigolion mwyaf bregus.