Part of the debate – Senedd Cymru am 7:07 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Wel, rydych wedi rhoi eich bys arno. Gallai olygu llawer o dechnolegau. Ni nodwyd eto ar gyfer pa dechnoleg, ond credaf ei bod yn rhesymol i'r Llywodraeth, ar ran pawb yng Nghymru, bwyso am iddo allu cael ei ddefnyddio ar gyfer technoleg megis y morlyn llanw.
Hefyd cawsom bapur sefyllfa diddorol iawn heddiw—ac rwy'n ei gefnogi'n llawn—ar ynni gwynt ac ynni solar, a lansiwyd gan y Llywodraeth gyda chymorth nifer o sefydliadau, gan gynnwys cydweithfeydd cymunedol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RenewableUK, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn—anghofiwch am forlynnoedd llanw, beth am y buddsoddiad mewn ynni gwynt ac ynni solar adnewyddadwy y gallwn ei wneud yfory? Mae'n nodi rhai o'r gwahaniaethau anhygoel, i ailadrodd pwyntiau Adam Price yn gynharach, rhwng buddsoddiad yng Nghymru, yr Alban a Lloegr mewn technoleg adnewyddadwy. Felly, prosiectau gwynt, er enghraifft, yn y dyraniad mwyaf diweddar o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn ynni adnewyddadwy: gosod 2,300 MW o gapasiti yn Lloegr gyda chymorth Llywodraeth y DU, gosod 1,000 MW o gapasiti yn yr Alban, a gosod 0.05 MW o gapasiti yng Nghymru o ganlyniad i gymorth Llywodraeth y DU. Caiff hynny ei adlewyrchu yn strategaeth ddiwydiannol y DU. Ffigurau yw'r rhain o ddatganiad Llywodraeth Cymru ei hun heddiw y credaf ei fod yn pwysleisio, pe bai gennym reolaeth dros ein hadnoddau ein hunain, nad bwrw ymlaen â'r morlyn llanw yn unig y buaswn yn ei wneud; credaf y buasem yn bwrw iddi go iawn gydag ynni gwynt, ynni solar, ar y tir ac ar y môr, a datgarboneiddio'r economi ehangach gyda systemau trafnidiaeth ac yn mynd y tu hwnt i drydaneiddio i Abertawe, na chawsom mohono byth— addewid wedi'i dorri—ond yn mynd yn syth, efallai, at drenau hydrogen a chynnig cyffrous go iawn ar gyfer y metro yn ne Cymru.
Y peth olaf rwyf am sôn amdano yma yw ardal twf gogledd Cymru. Ceir sôn hefyd am fargen twf canolbarth Cymru, ac mae angen inni ddeall—. Cyn y gallwn ddathlu hyn, rhaid i mi ddweud, gadewch i ni ddeall beth ydyw. A yw'n drên ychwanegol i'r Drenewydd neu a yw'n fuddsoddiad go iawn yng nghanolbarth Cymru? Bargen twf ar gyfer canolbarth Cymru neu ogledd Cymru—rhaid inni ddeall beth ydyw, beth sydd angen i ni weithio gydag ef. Mae'n rhan o rywbeth y credaf fod angen i ni ei ddeall. Y Llywodraeth hon, rwy'n gobeithio ei bod yn edrych ar gyfalaf trafodiadau ariannol. Mae'n arf lletchwith, ond os gallwn wneud iddo weithio ar gyfer buddsoddi mewn pethau fel cerbydau trydan, lle y ceir ad-daliad a gallwch ddefnyddio'r benthyciadau, yn ogystal ag ôl-osod ar gyfer cartrefi cynnes, os gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo ein cymunedau gwledig sy'n wynebu heriau Brexit—dyna ni, rwyf wedi dweud y gair B—yna gadewch i ni ei ddefnyddio. Gadewch inni fod yn greadigol ynglŷn â hynny. Ond cyn inni ddathlu beth y gallai bargen twf canolbarth Cymru fod, gadewch i ni ddeall beth ydyw a beth fydd yn ceisio ei gyflawni mewn gwirionedd.