Part of the debate – Senedd Cymru am 7:16 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ceir cytundeb ymhlith y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon fod y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus y tu hwnt i'w ddyddiad gwerthu. Nawr, yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld strategaeth fwriadol yn cael ei chyflwyno o osod gweithwyr y sector cyhoeddus yn erbyn gweithwyr y sector preifat, ac er fy mod yn siarad am welliant Plaid Cymru ar godi cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, hoffwn gydnabod o'r cychwyn fod angen gwirioneddol yn y wlad hon am well cyflogau yn y sector preifat, am sgiliau gwell ac am fwy o gyfleoedd gyrfa yn yr economi gynhyrchiol. Ond ar yr un pryd, mae Plaid Cymru eisiau gweld y cap cyflog anghyfiawn yn y sector cyhoeddus yn dod i ben, gan ddechrau yn GIG Cymru. Buasai gwneud hynny'n rhyddhau arian i mewn i'r economi, buasai'n helpu gweithwyr a'u teuluoedd i ymdopi â chwyddiant, rhywbeth sy'n taro Cymru'n galetach na'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, a buasai'n helpu gyda recriwtio, cadw staff a morâl staff mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ni allwn osgoi'r canfyddiad nad yw cyflogau ar frig y gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau â'r rhai ar y gweithlu cyffredin. Mae'n ganfyddiad a grëwyd gan y ffaith bod llawer o gyflogau swyddi uwch wedi cael eu gosod drwy drefniadau ar wahân oddi allan i gyrff adolygu cyflogau, ac yn aml oddi allan i bolisi Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, mae'n gwneud i bobl deimlo nad ydym i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd.
Mae gwelliant Plaid Cymru heddiw yn dod ar adeg hollbwysig yn dilyn cyllideb y DU. Rwyf am fod yn glir ynglŷn â'r goblygiadau i Gymru. Mae'r Canghellor wedi gwrthod codi'r cap ar gyflogau'n llawn, ond bydd yn rhoi caniatâd i Ysgrifenyddion Gwladol godi'r cap ar gyflogau ar sail adrannol os yw'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn cytuno. Dyma a gyhoeddodd. Mae nodyn y Trysorlys ar gyflogau'r sector cyhoeddus i gyd-fynd â'r gyllideb yr wythnos diwethaf hefyd yn nodi'n glir fod cyflogau yn yr achos hwn wedi'u datganoli. Mae'n dweud,
Ar gyfer y rhan fwyaf o weithluoedd, mae cyflogau'n gyfrifoldeb i lywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn Llywodraeth Cymru yn aros i'r cap ar gyflogau gael ei ddileu'n llawn fel ei fod yn cael arian canlyniadol Barnett. Y gobaith yw y gall hyn ddigwydd gyda'r GIG os yw corff adolygu cyflogau'r GIG yn ei argymell, ond mae Llywodraeth y DU hefyd yn dweud y bydd yn gosod amod cynhyrchiant. Felly, mae dull Llywodraeth Cymru o weithredu'n gysylltiedig â gosod amod gan Lywodraeth y DU ar ddyfarniad cyflog ymddangosiadol annibynnol a fydd wedyn yn cael ei benderfynu gan Jeremy Hunt.
Mae Plaid Cymru'n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn y GIG eisoes. Gwnaeth maniffesto Cymru yn 2017 yr ymrwymiad hwn ar dudalen 65, mewn pennod yn ymdrin â staff y GIG. Mae'r bennod honno'n sôn am lu o faterion datganoledig o'r cyflog byw i lefelau staffio a hyfforddiant i feddygon teulu. Mae'r syniad y gellir torri un o'r addewidion hynny allan fel mater nas datganolwyd heb i hynny gael ei nodi yn golygu na ellir cyflawni'r addewid mewn gwirionedd, er bod pob un o'r addewidion a restrir—pob un ohonynt—o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.
Buasai cost codiad cyflog GIG o 2.3 y cant yn £40 miliwn yn ychwanegol. Nawr, mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i 1 y cant, felly y £40 miliwn hwn yw'r gost ychwanegol. Nawr, rwy'n derbyn bod adnoddau dan bwysau. Buaswn yn derbyn, er enghraifft, na all llywodraeth leol fforddio gwneud hyn. Mae cyni'n real iawn. Ond er na ddylai fod yn fater i'r gwrthbleidiau ddweud sut y dylai'r Llywodraeth dalu am ei haddewidion ei hun, mae opsiynau ar gael i'r Llywodraeth Lafur os nad yw'r Canghellor yn cael gwared ar y cap ar gyflogau.
Mae gan Lywodraeth Cymru £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, wedi'i gadw o'r neilltu ar gyfer arbedion effeithlonrwydd posibl. Hefyd, ceir £68 miliwn mewn cyllid adnoddau drwy fformiwla Barnett yn y blynyddoedd i ddod. Buasai Llywodraeth Plaid Cymru wedi arbed £40 miliwn drwy ddiwygio gwaith asiantaeth y GIG, creu asiantaeth ddielw ar gyfer staff meddygol. Nid problem Plaid Cymru yw'r ffaith nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi unrhyw un o'r camau hyn ar waith; chi eich hunain sydd ar fai ac mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb.
Felly, mewn perthynas â chael gwared ar y cap ar gyflogau neu ei gadw, ceir dau ddull o weithredu y gall Llywodraeth Lafur Cymru eu cyhoeddi heddiw—