Part of the debate – Senedd Cymru am 7:37 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae'n amlwg i mi bellach fod y cyhuddiad hwnnw wedi'i wneud yn gynharach, er na chlywais ef fy hun, ac yn ddefnyddiol, mae arweinydd yr wrthblaid wedi egluro hynny, a'r BBC, y prynhawn yma. Nid yw cwestiynu uniondeb Aelodau'r Cynulliad yn briodol, ac mae Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon yn pleidleisio heb ofn na ffafriaeth. Mae'n bosibl fod arweinydd yr wrthblaid yn dymuno egluro'r cyhuddiad y ceisiodd ei wneud, ac os cafodd ei gamddehongli mewn unrhyw ffordd.