– Senedd Cymru am 7:36 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Pwynt o drefn—Hefin David.
Mae'n flin gennyf orfod codi'r pwynt o drefn hwn, Lywydd. Yn ystod dadl gynharach, dywedodd arweinydd yr wrthblaid, ar ei eistedd, wrth Aelod arall, 'Rydych wedi cymryd y swllt.' A fuasech yn dyfarnu bod hynny'n groes i'r drefn, yn enwedig gan gyfeirio at Reolau Sefydlog 13.9(iv) a 13.9(v)? Ac os felly, a wnewch chi roi cyfle i'r Aelod dynnu'r sylw yn ôl ac ymddiheuro amdano?
Mae'n amlwg i mi bellach fod y cyhuddiad hwnnw wedi'i wneud yn gynharach, er na chlywais ef fy hun, ac yn ddefnyddiol, mae arweinydd yr wrthblaid wedi egluro hynny, a'r BBC, y prynhawn yma. Nid yw cwestiynu uniondeb Aelodau'r Cynulliad yn briodol, ac mae Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon yn pleidleisio heb ofn na ffafriaeth. Mae'n bosibl fod arweinydd yr wrthblaid yn dymuno egluro'r cyhuddiad y ceisiodd ei wneud, ac os cafodd ei gamddehongli mewn unrhyw ffordd.
Diolch i chi, Lywydd. Yn sicr ni roddais unrhyw eglurhad y prynhawn yma, gan nad wyf wedi rhoi unrhyw gyfweliadau o gwbl, er y gwelaf fod y BBC yn adrodd rhyw stori. Rwyf wedi dweud fy sylwadau yn fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw, a daliaf at y sylwadau a wneuthum yn y ddadl.
Credaf efallai yr hoffech ystyried y ffaith eich bod yn bendant wedi cael eich cofnodi'n dweud bod eich cyhuddiad yn cyfeirio at Aelod nad oedd yn cymryd unrhyw ran o gwbl yn y ddadl ar y pryd, yn hytrach na'r Aelod y cyfeirioch chi atynt wrth geisio egluro yn nes ymlaen yn ddadl honno. O ystyried natur y ddadl a gynhaliwyd gennym y prynhawn yma, gofynnaf i chi feddwl eto, ac fe drafodwn hyn y tu allan i'r Siambr. Ac os oes angen, down â'r mater yn ôl i'r Siambr. Symudwn ymlaen i bleidleisio yn awr, ond bydd angen rhoi sylw i'r materion hyn yn nes ymlaen.
Felly, rydym yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.