Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:38 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:38, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf efallai yr hoffech ystyried y ffaith eich bod yn bendant wedi cael eich cofnodi'n dweud bod eich cyhuddiad yn cyfeirio at Aelod nad oedd yn cymryd unrhyw ran o gwbl yn y ddadl ar y pryd, yn hytrach na'r Aelod y cyfeirioch chi atynt wrth geisio egluro yn nes ymlaen yn ddadl honno. O ystyried natur y ddadl a gynhaliwyd gennym y prynhawn yma, gofynnaf i chi feddwl eto, ac fe drafodwn hyn y tu allan i'r Siambr. Ac os oes angen, down â'r mater yn ôl i'r Siambr. Symudwn ymlaen i bleidleisio yn awr, ond bydd angen rhoi sylw i'r materion hyn yn nes ymlaen.