Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, defnyddiais y gair 'dylanwad' ar bwrpas. Gellir gwarchod ein budd cenedlaethol Cymru dim ond os bydd ein ASau yn pleidleisio y ffordd iawn ar raniadau Brexit hollbwysig. Ateb Plaid Cymru i broblem y ffin, fel y byddwch yn ymwybodol, yw i'r DU aros yn yr undeb tollau. Plaid Lafur y DU yw'r wrthblaid swyddogol yn San Steffan i fod. Rydych chi newydd ddweud, yn gynharach, eich bod chi eisiau i Gymru aros yn y farchnad sengl ac mai aelodaeth o'r undeb tollau yw'r ateb i'r broblem hon. Clywsom yn gynharach, hefyd, am bwysigrwydd democratiaeth seneddol. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pam y gwnaeth ASau Llafur bleidleisio yn erbyn aelodaeth y DU o'r undeb tollau mor ddiweddar â'r ugeinfed o Dachwedd?