Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae'n braf gweld bod ASau Llafur a Phlaid Cymru wedi cydweithio er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio cael ein gwelliannau trwy Dŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ac rwyf i'n croesawu hynny yn fawr iawn. Bydd hi'n gwybod fy marn i, sef fy mod i'n credu y dylai fod gennym ni fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Rydym ni wedi cytuno ar yr un safbwynt. Credaf hefyd mai'r dewis gorau i'r DU yw aros yn yr undeb tollau. Bydd gwahanol safbwyntiau yn fy mhlaid i yn Llundain, ac mae'r safbwyntiau hynny yn hysbys, gan fod rhai Aelodau wedi eu mynegi. Ond fy marn i, fel Prif Weinidog, yw mai'r dewis gorau i ni yw aros yn yr undeb tollau a chael y mynediad hwnnw at y farchnad sengl.