Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:53, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Y broblem yma yw bod gennym ni nifer o safbwyntiau Llafur. Nid oes gennym ni eglurder ynghylch beth yw safbwynt y Blaid Lafur, a bu methiant gan ASau Llafur i ddiogelu ein buddiannau yma yng Nghymru, drwy'r ffordd y maen nhw'n pleidleisio. Rydym ni'n wynebu Llywodraeth Dorïaidd wan a rhanedig, ond caniatawyd i gonsensws gael ei ddatblygu ynghylch gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Rydych chi wedi dweud os caiff cytundeb ar wahân ei gynnig i wlad arall yn y DU, eich bod yn disgwyl i hwnnw gael ei gynnig i Gymru. Efallai fy mod i'n ymddiried llawer llai yn San Steffan nag yr ydych chi, Prif Weinidog, ond fel mae pethau'n sefyll, rwy'n disgwyl i San Steffan beidio â chynnig cytundeb o'r fath i ni. Ond gallwn newid y sefyllfa honno os ydym ni eisiau. Yn absenoldeb unrhyw weithredu neu flaengarwch gan Blaid Lafur y DU, gall y Cynulliad hwn leisio ei farn. Mae'r grym gennych chi i sicrhau nad yw Cymru'n setlo am ail orau yn y fan yma. Fel Prif Weinidog y wlad hon, a wnewch chi sicrhau, pan ddaw'r amser, y bydd ASau Llafur yn San Steffan yn cefnogi cytundeb ar wahân i Gymru?