Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Gallaf ddweud bod Busnes Cymru ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a chymorth i unrhyw fusnes sy'n cael ei effeithio gan y cyhoeddiad, a byddwn yn eu hannog i gysylltu. Mae Busnes Cymru yn cynghori ac yn cynorthwyo busnesau ar bob agwedd ar eu gweithrediad, gan gynnwys gwerthuso eu cadwyni cyflenwi i nodi cyflenwyr amgen, sy'n cynnwys cwmnïau o Gymru. A bydd cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi a chlystyrau lleol fel bod mwy o werth economaidd a chyflogaeth yn cael eu cadw'n lleol yn rhan o'r model datblygu economaidd newydd â phwyslais rhanbarthol, y byddwn yn ei gyflwyno yn y cynllun gweithredu economaidd.