Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, aeth 10,000 o gwmnïau i'r wal yng Nghymru y llynedd. Dim ond 43 y cant yw nifer y cwmnïau sydd dal mewn busnes ar ôl pum mlynedd, sy'n is na chyfartaledd y DU. Nawr, yn ddealladwy, bydd rhai cwmnïau yn mynd i'r wal oherwydd newidiadau yn y farchnad ac am resymau eraill, ond a gaf i ofyn beth yw eich esboniad chi o pam mae busnesau yn fwy tebygol o fynd i'r wal yng Nghymru, ac a gaf i ofyn hefyd sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r duedd hon?