3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:40, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd croeso i swyddogaeth y comisiwn arfaethedig o ran cynllunio strategol. Cafwyd cytundeb y dylai cyllid gan y comisiwn i ddarparwyr addysg a hyfforddiant fod yn ddibynnol mewn rhyw ffordd ar gytundeb Gweinidogion Cymru i'w gynllun strategol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr y tu allan i'r sector addysg uwch yn cefnogi mewn egwyddor gyflwyniad cytundebau canlyniadau ond yn eiddgar i gael mwy o fanylion am eu gweithrediad. Byddwn yn datblygu rhagor o fanylion am y dull hwn i'w hystyried gan y rhanddeiliaid. Roedd ymatebwyr yn gweld swyddogaeth i'r comisiwn arfaethedig o ran cefnogi myfyrwyr i newid cyrsiau a darparwyr, ac amddiffyn myfyrwyr yn achos methiant y darparwr. Cytunodd mwyafrif hefyd fod ehangu'r hygyrchedd i grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn broblem o hyd, fel y mae'r diffyg cyfleoedd i astudio'n rhan-amser. Bydd yr Aelodau yn gwybod fod y rhain yn egwyddorion ysgogol i'n diwygiadau ni o ran cymorth i fyfyrwyr.

Gan droi at ansawdd y ddarpariaeth, roedd mwyafrif llethol y rhanddeiliaid yn gefnogol i swyddogaeth i'r comisiwn o ran gwella ansawdd. Roedd gwahaniaeth barn, er hynny, ynghylch a fyddai un fframwaith cyffredin i sicrhau ansawdd y system Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn ei chyfanrwydd yn ffordd gywir o fwrw ymlaen. Mae'n amlwg fod angen gwaith eto yn hyn o beth, a bydd yr adolygiad ategol gan yr Athro Harvey Weingarten yn cyfrannu llawer i ddatblygiad y cynigion hyn wrth inni symud ymlaen.

Cwestiwn penodol a gafodd ei ofyn yn yr ymgynghoriad oedd a ddylai fod gan y comisiwn arfaethedig gyfrifoldeb dros y chweched dosbarth neu beidio . Eto, mae hwn yn faes y byddwn yn gwneud rhagor o waith arno, ond dylid dweud bod mwyafrif yr ymatebwyr o'r farn y dylai'r chweched dosbarth gael ei drin fel pe bai'n rhan o'r system PCET. Teimlai rhai ymatebwyr y dylid cyflwyno'r chweched dosbarth yn raddol yn ddiweddarach yn hytrach na bod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn o'r dechrau. Rwy'n diolch i'r ymatebwyr am godi hynny a materion eraill y byddwn yn eu hystyried ymhellach wrth inni ddatblygu ein cynigion ar gyfer cam nesaf yr ymgynghoriad.

Yn ogystal â'r hyn y mae rhanddeiliaid wedi ei dweud wrthym ni yn eu hymateb i'r Papur Gwyn, mae angen hefyd inni ystyried yr adolygiad diweddar o ddatblygiadau eraill a'u heffaith ar ein cynigion ar gyfer diwygio PCET. Argymhellodd yr adolygiad diweddar o weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei fod yn ehangu ei gylch gwaith o fod yn cwmpasu addysg uwch i gwmpasu'r sector PCET yn ei gyfanrwydd. Rwyf wrth fy modd am fod hyn yn cyd-fynd â'n cynigion i ddiwygio PCET, a bydd y berthynas rhwng y comisiwn arfaethedig a'r Coleg yn ystyriaeth allweddol wrth i ni fwrw ymlaen.

Bydd y cynigion i wneud Ymchwil ac Arloesi Cymru yn bwyllgor statudol y comisiwn yn amlwg yn cael eu dylanwadu gan ymatebion y rhanddeiliaid ond hefyd ganlyniadau adolygiad Reid. Bydd hwn yn adrodd yn fuan yn y flwyddyn newydd a byddwn wrth gwrs yn cymryd barn yr Athro Reid i ystyriaeth wrth inni symud ymlaen. Yng ngoleuni'r ymatebion i'r cynigion cychwynnol yn ein Papur Gwyn, rwy'n bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghoriad technegol pellach yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn nodi'n fwy manwl sut yr ydym yn rhagweld y gallasai'r comisiwn newydd weithio. Rydym yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i wrando ac rwy'n cydnabod efallai y bydd materion yn dod i'r amlwg eto na fydd yr ymgynghoriad technegol yn ymdrin â nhw. Rwyf i, felly, wedi fy ymrwymo i barhau i ymgysylltu yn agos â rhanddeiliaid ac ar draws y Siambr wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau.

Yng ngoleuni ein cynigion i ddiwygio'r system PCET, mae'n codi fy nghalon i fod rhanddeiliaid o'r gwahanol sectorau eisoes yn chwilio am ffyrdd o weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd mewn partneriaeth, ac mae hynny'n argoeli'n dda iawn i'r dyfodol. Yn ein Llywodraeth rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer trosglwyddo yn llyfn i system PCET sydd wedi ei gweddnewid. Rydym yn cymryd cam cyntaf pwysig tuag at y cyfnod pontio hwnnw drwy wneud cyfres o benodiadau newydd i gyngor cyfredol CCAUC. Ymunodd aelodau newydd cyntaf y Cyngor ar 1 Rhagfyr, a bydd aelodau newydd eraill yn dechrau yn eu swyddi yn gynnar yn 2018 fel y bydd yr aelodau presennol yn rhoi'r gorau iddi.

Bydd y penodiadau hyn am dair blynedd yn y lle cyntaf a byddant yn helpu i ehangu cyrhaeddiad a gwelediad y Cyngor. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu denu unigolion o'r fath safon uchel i'r swyddi hyn, a fydd yn hanfodol i helpu inni wireddu ein huchelgais ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil a hyfforddiant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi teyrnged i Aelodau Cyngor CCAUC, a fydd yn ymadael â'u swyddi o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg uwch yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

Dirprwy Lywydd, ni ellir amau ehangder ein huchelgais nac ehangder y diwygiadau hyn. Rwy'n croesawu'r consensws eang sy'n bodoli, a'n bod yn cytuno hefyd nad yw cadw pethau fel ag y maen nhw yn ddewis ymarferol. Nid ydyw'n ddewis ymarferol ar gyfer dysgwyr, nac ar gyfer darparwyr na'r genedl gyfan. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn iawn a sicrhau system PCET a fydd yn diwallu anghenion pawb ac yn helpu i saernïo Cymru sy'n fwy llewyrchus a llwyddiannus.