Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw ac am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwnnw, ac, yn wir, i bob un o'r unigolion a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn?
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cynnig i sefydlu Comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol i Gymru yn un y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei lwyr gefnogi. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi'r hysbysiad fod y Llywodraeth bellach yn mynd i symud ymlaen at ymgynghoriad technegol, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn egluro ein bod yn wynebu heriau difrifol yn y sector addysg ôl-orfodol ar hyn o bryd, a'i bod yn rhaid inni symud tuag at wella'r sefyllfa honno cyn gynted ag y bo'r modd.
Felly, mae'r diwygiadau hyn, yn fy marn i, yn rhoi cyfle hollbwysig i greu'r system addysg a hyfforddiant hyblyg ac ystwyth yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w gweld, a chyfeiriwyd at hynny ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth.
Tybed, er hynny, a fyddai modd ichi roi amserlen glir inni ar gyfer dod â'r ymgynghoriad technegol i ben a phryd yr ydych yn disgwyl y gallwch weithredu ar unrhyw argymhellion sy'n deillio o hynny, ar ôl ichi ystyried yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, er mwyn inni allu cyrraedd y man sy'n ddymunol inni i gyd mor fuan â phosibl.
Ni wnaethoch gyfeirio at lwybrau galwedigaethol yn eich datganiad heddiw, ac fe wnaethoch chi sôn yn fyr am astudiaeth ran-amser, ond ddim ond yn fyr iawn oedd hynny. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiwn newydd, yn fy marn i, yn gyfle cyffrous i hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol ac, yn wir, astudiaeth ran-amser. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael tipyn o wefus-wasanaeth yn y gorffennol, credaf ei bod yn ddigon teg dweud hynny, gan rai o'ch rhagflaenwyr—nid y chi, rwy'n prysuro i ychwanegu—ond bydd angen rhai newidiadau mentrus yn y system addysg ôl-orfodol os ydym yn awyddus i wireddu'r uchelgais sydd gennym ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac, yn wir, ar gyfer dysgwyr galwedigaethol hefyd.
Felly, tybed a allech chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i sicrhau bod y comisiwn newydd yn rhoi'r un flaenoriaeth i addysg alwedigaethol a rhan-amser, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r comisiwn newydd hwnnw yn gorbwysleisio addysg uwch sydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, wedi bodoli, o bosibl, yn y gorffennol.
Roeddech chi hefyd yn sôn am ehangu'r hygyrchedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol—rhywbeth arall yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Un o'r pethau hynny sydd weithiau yn faen tramgwydd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yw hyblygrwydd y cyrsiau a'r ariannu sydd ei angen weithiau i helpu pobl i gael mynd ar y cyrsiau hynny. Felly, rwy'n credu bod angen amlwg inni weld rhywfaint o newid o ran hygyrchedd a'r modd y caiff cyrsiau addysg eu cyflwyno. Rhai o'r grwpiau sy'n wynebu'r rhwystrau hynny, wrth gwrs, yw grwpiau Sipsiwn a Theithwyr, grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac, yn wir, blant sy'n derbyn gofal—nid yw'r rhain yn cael eu cynrychioli'n ddigonol o bell ffordd mewn addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth yn union yr ydych yn mynd i'w wneud, yn arbennig i gefnogi'r grwpiau hynny, a beth fyddwch chi yn eu rhoi yn dasgau i'r comisiwn newydd o ran gwella hygyrchedd i addysg ôl-orfodol ar gyfer yr unigolion hynny.
Yn ogystal â hynny, o ran ariannu a threfniadau hyblygrwydd, mae angen amlwg fod angen inni edrych ar sut y mae pobl yn defnyddio'r cyrsiau a sut y gall pobl newid, efallai, o un cwrs i un arall pe bai eu hamgylchiadau'n newid. Weithiau, mae pobl yn cael eu taflu allan o'r system am fod ganddyn nhw angen iechyd am gyfnod, ac yn amlwg mae'n bwysig fod cyfle iddynt allu ailafael yn eu hastudiaethau. Weithiau, mae pobl yn symud o un rhan o'r wlad i ran arall ar ganol eu cwrs ac mae'n bwysig eu bod yn gallu cymryd y credydau hynny gyda nhw o'r cyrsiau y maen nhw wedi eu dechrau. Ac eto i gyd, mae'r rhain yn faterion mawr nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael eu datrys yn hawdd yn y system bresennol o addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a fydd y rhain yn faterion penodol y byddwch chi'n awyddus i'r comisiwn ganolbwyntio arnyn nhw.
Y peth arall na chlywais i chi'n cyfeirio ato heddiw oedd rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn sail i holl bwrpas y diwygiad hwn, sef gyrfaoedd. Gwyddom ein bod eisiau paru pobl â gyrfa briodol y gallan nhw ei mwynhau a chael bywyd bodlon ynddi hi, ond gwyddom hefyd fod prinder cyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gael i bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd y tu hwnt i oedran addysg orfodol. Felly, sôn yr wyf am oedolion sydd o bosibl yn ddiweddarach yn eu bywyd yn gobeithio dychwelyd i'r gweithlu, neu sydd wedi cael eu diswyddo neu, oherwydd amgylchiadau, sy'n gorfod newid gyrfa ac efallai y bydd angen cymorth, cyngor a chanllawiau i'w rhoi ar ben y ffordd. Felly, eto, tybed a allai'r comisiwn gael swyddogaeth yn hyn o beth ac a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn awyddus iddyn nhw edrych arno.
Ac yn olaf, os y caf i, ar fater yr iaith Gymraeg, rwy'n gwybod bod darn o waith ar wahân yn cael ei wneud o ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'i swyddogaeth, ond a wnewch chi sicrhau y bydd swyddogaeth y coleg yn rhan annatod, yn wir, o'r ffordd y mae'r comisiwn hwn yn gweithredu, fel y gall pob un sicrhau bod yna ymdrech ar y cyd, ledled yr holl sector addysg, i gefnogi'r uchelgais sydd gennym ni yn y Siambr hon, hynny yw, gweld yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg hynny o fewn yr amserlen a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 2050? Diolch.