3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:50, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Darren Millar am y gyfres hon o gwestiynau, ac am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda o ddiwygio sydd gennym ni gerbron? Mae Darren, fel finnau, yn deall nad yw'r sefyllfa sydd ohoni yn ddewis o gwbl, ac un o'r ffactorau sydd wedi ysgogi'r diwygio yw rhai o'r problemau a'r sylwadau y mae Darren newydd eu gwneud am rai o'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr.

Mae angen inni gael system sy'n gwrando'n wirioneddol ar lais y myfyrwyr, sy'n cydnabod nad yw'n gymwys bellach ystyried myfyriwr fel rhywun sy'n gadael ysgol yn draddodiadol yn 18 mlwydd oed. Mae angen inni ddatblygu system addysg ôl-orfodol sy'n cydnabod bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o addysg gydol eu hoes a'u gyrfaoedd wrth inni addasu i economi sy'n newid yn barhaus. Bydd angen hyblygrwydd ar fyfyrwyr i allu astudio, weithiau'n amser llawn neu weithiau'n rhan amser, yn gyfochrog â'r gwaith neu, efallai, gyfrifoldebau gofalu. Mae'r holl ganolbwyntio ar greu un corff i oruchwylio'r sector cyfan hwn yn rhoi cyfle inni allu sefydlu system o'r fath, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i hynny.

Os caf i droi at rai o'r materion penodol sy'n cael eu codi ganddo, Darren, fel chithau, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni gydnabod, er gwaethaf llawer o'r dadleuon yn y Siambr hon a llawer o areithiau gan Weinidogion, Ysgrifenyddion y Cabinet ac, yn wir, wleidyddion y gwrthbleidiau, nad yw llwybrau academaidd a galwedigaethol drwy addysg yn cael eu hystyried yr un mor werthfawr â'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ofid mawr i mi. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw dysgwyr—dysgwyr ifanc, yn arbennig—na'u rhieni bob amser yn cael yr wybodaeth na'r cyngor gorau i'w tywys nhw tuag at y dewisiadau addysg a gyrfa mwyaf priodol iddyn nhw. Dyna oedd un o'r negeseuon cryfaf a gawsom ni o ganlyniad i'n hymgynghoriad â dysgwr: mae pobl ifanc yn dweud, 'Nid ydym yn cael y cyngor sydd ei angen arnom i wneud y dewisiadau hynny.' Eto i gyd, un o'r seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn yw dweud bod y cyrsiau hyn, y llwybrau hyn i gyflogaeth, i addysg ac astudiaeth, o'r un gwerth â'i gilydd. Gan ddibynnu ar eich dyheadau, eich uchelgeisiau gyrfaol, yna nid un ffordd gywir neu anghywir, neu un ffordd well neu waeth, sydd o gyflawni hynny. Eto i gyd, dyna un o seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn.

Ond mae'n rhaid inni gael yr wybodaeth yn iawn; mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn ar gyfer pobl ifanc, a rhaid inni ei chael yn iawn ar gyfer pobl hŷn sydd efallai yn wynebu newidiadau yn eu gyrfa neu efallai eu bod yn chwilio am gyfleoedd newydd o ganlyniad i golli eu swyddi neu newid yn amgylchiadau eu bywyd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, efallai, nad ydym wedi datblygu hyn i'r graddau y byddem wedi ei hoffi, ac mae'n rhywbeth sy'n ffynhonnell gyson o drafodaeth rhyngof i a'r Gweinidog, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, wrth inni edrych ar raglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yn gyffredinol. Bydd angen inni wneud rhagor o waith yn y maes hwn i wneud y cynnig iawn, oherwydd os gwrandawn ni ar fyfyrwyr a phobl ifanc, nid ydyn nhw'n cael hynny ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny, fel arall nid oes unrhyw bwynt inni gynnal yr ymgynghoriad os nad ydym yn barod i ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Mae hygyrchedd, wrth gwrs, wrth wraidd y diwygiadau cymorth i fyfyrwyr. Dyna pam y byddwn ni'n unigryw yn y DU pan fyddwn yn cynnig cymorth pro rata ar gyfer dysgwyr rhan-amser mewn addysg uwch. I'r rhai sydd yn y maes addysg bellach, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc o gefndir tlotach gael cymorth ariannol yn y sector addysg bellach. Bydd plant sy'n derbyn gofal, wrth gwrs, yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth cynhaliaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig: dros £9,000 i'w galluogi i astudio ar lefel addysg uwch. Yr her fwy i ni, rwy'n credu, yw sicrhau bod mwy o blant sy'n derbyn gofal yn cael cyfle i wneud cais am y grant cynhaliaeth. Mae hynny'n mynd yn ôl at y camau gweithredu ar draws yr adran addysg i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn eu haddysg, oherwydd rwy'n awyddus bod mwy ohonyn nhw'n gallu cael gafael ar y grant cynhaliaeth hwnnw. Mae gennym hefyd system cymorth i fyfyrwyr anabl, a adolygwyd yn annibynnol yn ddiweddar, a chanfu'r adolygiad hwnnw ei fod yn gynllun llwyddiannus iawn sy'n helpu'r bobl hynny ag anableddau i fynd ymlaen i addysg uwch.

O ganlyniad i'r diwygiadau hyn, fy mwriad i yw y dylai fod yn haws i fyfyrwyr allu newid cyrsiau, cario credydau ymlaen, a chael dull cyfunol o astudio—rhan-amser, amser llawn, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. O ran y coleg, fel y gwyddoch, rwyf i o'r farn fod y coleg Cymraeg yn gwneud gwaith rhagorol yn ehangu hygyrchedd i gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Credaf fod yr egwyddor o ymestyn hynny i addysg bellach ac addysg sy'n seiliedig ar waith, fel bod cyfle i bobl gael eu haddysg a chael eu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, yn arbennig o hanfodol mewn rhai sectorau lle mae prinder gweithwyr proffesiynol. Dim ond yn ddiweddar, yn y ddadl ar anghenion dysgu ychwanegol, roeddem yn sôn am lu o weithwyr proffesiynol y mae angen sgiliau iaith Gymraeg arnyn nhw ar hyn o bryd nad oes gennym ar hyn o bryd. Mae'n gwbl hanfodol inni ddatblygu swyddogaeth y coleg yn unol â'n diwygiadau PCET ac rwy'n credu eu bod mewn cytgord.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn ddiolchgar iawn am y modd y mae Darren Millar wedi chwarae ei ran yn hyn. Fel finnau, mae ganddo uchelgais mawr ar gyfer y rhan arbennig hon o'n sector addysg a hyfforddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Darren ar yr ymgynghoriad technegol, a fydd yn cael ei ryddhau yn y flwyddyn newydd. Gweinidog wyf i sy'n awyddus i fwrw ymlaen â phethau, a byddwn yn ceisio gwneud cynnydd cyn gynted ag y bo modd, ond gan gydnabod mai cyfres sylweddol o ddiwygiadau yw hon ac mae angen inni eu cael nhw'n iawn.