Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Gofynnodd yr holwr blaenorol yn benodol am amserlen yr ymgynghoriad technegol. Mae gennyf ddiddordeb yn eich cadarnhad, efallai, ei bod yn dal yn fwriad gennych y bydd y ddeddfwriaeth hon wedi cwblhau ei thaith drwy'r Cynulliad hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn. Efallai y gallech nodi rhai cerrig milltir allweddol i ni ar y daith honno os oes modd, fel y gallwn gael yr amserlen fras honno ychydig yn fwy eglur yn ein meddyliau, gan fod yna nifer o gychod yn y dŵr yma, mewn gwirionedd. Roeddech chi'n sôn am nifer o adolygiadau: yr ymgynghoriad technegol ei hunan, wrth gwrs; adolygiad Reid, a fydd yn bwydo i mewn i hwnnw; ac adolygiad Weingarten, hefyd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut yr ydych chi'n credu y bydd y rhain i gyd yn dod at ei gilydd mewn gwirionedd ac yn cyd-fynd â'i gilydd yn effeithiol i sicrhau y byddant i gyd yn cael eu hystyried yn llawn.
Rwyf i wedi codi'r cwestiwn am y chweched dosbarth gyda chi o'r blaen, ac roedd yn y Papur Gwyn, ac yn gwbl briodol felly. Rydych chi'n dweud bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o blaid cynnwys y chweched dosbarth yn y system arfaethedig, er bod rhai wedi dadlau'r achos, os mynnwch chi, dros ei gyflwyno'n ddiweddarach gam wrth gam. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa wybodaeth neu drafodaethau sydd eu hangen arnoch chi eto ar gyfer dod i benderfyniad a sut y gallai hynny o bosibl effeithio ar yr amserlen. A fyddai hynny'n gofyn am ddeddfwriaeth yn ddiweddarach? Neu a fyddech chi'n ymgorffori hynny yn eich deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer rhywbeth sydd yn mynd i gael ei gyflwyno'n ddiweddarach? Oherwydd, yn amlwg, mae llawer ohonom yn gobeithio y bydd hwn yn ddiwygio cydlynol a chynhwysfawr o ran y sector. Os byddwn yn dechrau dosrannu darnau ohono y perygl yw y bydd yn dameidiog. Rwy'n deall yr anawsterau ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, ond hoffwn i glywed ychydig rhagor am eich syniadau chi i'r perwyl hwn.
Roeddech chi'n sôn am ddysgu oedolion yn y gymuned—clywsom ei enw gennych chi—ar ddechrau eich datganiad. Nid oes llawer mwy i'w gael ac, yn amlwg, rydym clywed un neu ddau o bethau gennych yn eich ymateb diwethaf. Yn amlwg, mae'r gostyngiad mewn darpariaeth addysg ran-amser i oedolion yn peri pryder mawr, ac mae rhai pobl yn teimlo bod dysgu cymunedol i oedolion ar ei liniau i raddau helaeth iawn ar hyn o bryd. Felly, mae'r sector yn dweud wrthyf i na all aros am y newidiadau hyn, er mai ychydig iawn oedd, mewn gwirionedd, yn y Papur Gwyn am addysg i oedolion yn y gymuned. Mae 'na berygl y byddwn yn sôn gormod am golegau chweched dosbarth, prifysgolion—mae angen inni eu trafod nhw, wrth gwrs, ond rwyf i o'r farn fod angen inni gael y cydbwysedd iawn. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed ychydig yn fwy am sut y gallwn mewn gwirionedd ymgorffori llais y sector yn y trafodaethau o hyn ymlaen, a pheidio â syrthio i fagl gwefus-wasanaeth—credaf mai dyna'r ail dro y defnyddiwyd yr ymadrodd hwnnw—a sut y bydd y llais hwnnw yn cael ei glywed yn swyddogaeth y comisiwn, gan ein bod yn dod yn ôl at yr egwyddor hon o barch cydradd yr ydym ni i gyd yn ei geisio, a byddai'n dda o beth cael mwy o eglurder, eto, ar hynny.
Roeddech chi'n cyffwrdd ag ymestyn swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ailadrodd bod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r swyddogaeth hon yn cael ei herydu mewn unrhyw ffordd, a'i bod yn cadw ei chyfrifoldeb presennol, ei chyfrifoldeb ychwanegol a'i swyddogaeth unigryw yn y dirwedd newydd. Efallai y gallech chi gydnabod—neu a fyddech chi'n cydnabod—bod yn rhaid i gyfrifoldebau ychwanegol olygu adnoddau ychwanegol hefyd, er ein bod mewn cyfnod anodd iawn yn hynny o beth. Ond byddai rhywun yn disgwyl fod yn rhaid i un ddilyn y llall.
Ar y pwynt hwnnw, mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar inni ddechrau siarad am gyllidebau a phethau o'r fath ar gyfer y corff newydd arfaethedig. Ond cofiaf yn iawn, pan gafwyd trafodaethau am sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mai un o'r rhesymau a gyflwynwyd oedd y byddai'n creu arbedion effeithlonrwydd. Nid wyf i'n siŵr a yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth chi neu i ba raddau y gallai fod yn tywys peth o'r hyn sy'n cael ei chwarae i'r diwedd nawr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydych chi'n rhagweld unrhyw fath o arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn sgil y trefniant newydd—neu efallai nad yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth o gwbl? Byddai'n ddiddorol cael gwybod, mewn gwirionedd, ar ba bwynt y credwch chi y daw hynny'n fwy eglur.
Rydym wedi crybwyll mynd i'r afael â'r rhwystrau i addysg ôl-orfodol a hyfforddiant, a'r toriadau sydd wedi cael effaith anghymesur ar nifer o grwpiau. Rwy'n tybio y byddai'r cytundebau canlyniad yr ydych yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn bwriadu mynd i'r afael â rhai o'r rheini i sicrhau y bydd pobl â chyfrifoldebau gofal, neu'r rheini sydd angen mathau penodol o gymorth, yn cael cynnig hynny. Rydych chi'n dweud ei bod yn egwyddor ysgogol ar gyfer eich diwygiadau cymorth i fyfyrwyr i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hyn, a dim ond ceisio cadarnhad yr wyf i y bydd yn rhan annatod o gylch gwaith y comisiwn.