3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:03, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Llŷr eto am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda ddiwygio hon? Mae'r consensws yr ymddengys sydd gennym yn y Siambr heddiw yn adlewyrchu'r consensws ledled Cymru o ran yr angen i symud ymlaen yn hyn o beth, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn yr ymgynghoriad.

O ran amserlenni, yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu dros y 18 mis diwethaf yw bod yn ochelgar iawn wrth ymrwymo i amserlenni penodol. Yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu hefyd yw fod y pethau hyn yn cymryd llawer mwy o amser nag y byddech chi'n ei ragweld yn wreiddiol yn y Llywodraeth. Ond fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad technegol yn y flwyddyn newydd, a'm bwriad pendant o hyd yw cyflwyno deddfwriaeth, a chyda chydweithrediad y Siambr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth gychwyn. Ond, eisoes, wrth ddechrau pennu cwmpas y ddeddfwriaeth a allai ddeillio o hyn—ac rydym ar gam cynnar iawn. Mae eisoes yn edrych  fel y gallai hwn fod y darn mwyaf oll o ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi gorfod ymdrin ag ef, ar adeg pan fo llawer o ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad. Ond fy mwriad pendant i a'm gobaith yw y gallwn gyrraedd y diwedd cyn  tymor y Cynulliad.

O ran cyllid, caiff y costau eu hystyried yn llawn yn rhan o'r broses datblygu polisi ac yn y pen draw, wrth gwrs, bydd angen eu nodi, fel y mae'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog, yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth gwrs, caiff y costau eu pennu gan bwerau a swyddogaethau'r corff yr ydym yn bwriadu ei sefydlu, a chan ein bod ni'n dal wrthi'n penderfynu ar hynny, nid wyf yn ystod y cam hwn yn gallu rhoi llawer iawn o fanylion i'r Aelod. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw fy mod yn gobeithio cyhoeddi asesiad rheoleiddiol rhannol, gan nodi'r fethodoleg ar gyfer pennu costau, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad technegol. Felly, dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud, er mwyn rhoi cyfle i'r Aelodau weld sut y bydd y Llywodraeth yn y pen draw yn cyrraedd yr ystyriaethau cyllideb sy'n gysylltiedig â hyn. Rwy'n gobeithio y caiff hynny groeso gan Aelodau o bob ochr ac y bydd yn cynorthwyo Aelodau yn y swyddogaeth graffu sydd ganddyn nhw yma.

I egluro, bydd adolygiad Reid, sy'n edrych ar ymchwil ac arloesedd, yn cael ei gyhoeddi yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd, ac mae hynny'n rhan annatod o'n meddylfryd o ran sut y gallwn ni ddatblygu'r darn pwysig iawn hwnnw o'r hyn y bydd y comisiwn yn gyfrifol amdano. Mae adolygiad Weingarten yn edrych yn benodol ar fater cytundebau canlyniadau. Fel y dywedais yn fy natganiad, nid oes consensws ar hyn o bryd ynghylch a oes modd i un—wyddoch chi, sut yn union fyddai'r cytundebau canlyniadau yn gweithio, o ystyried cymhlethdod a natur amrywiol y sector. Ac felly bydd adolygiad Weingarten, gan ŵr enwog iawn wrth gwrs yn y maes hwn yng Nghanada a systemau ledled y byd, yn hollbwysig i'n helpu ni i roi mwy o fanylion a gwell golwg ar sut y bydd y cytundebau canlyniadau hynny'n gweithio'n ymarferol.

Y chweched dosbarth—wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud ei fod o blaid cynnwys y chweched dosbarth. Nodaf nad oedd wedi nodi hynny'n ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad, ond credaf ei fod yn awgrymu mai dyna yw ei ddewis. Nid dyna ddewis y rhan fwyaf yn sicr o'r bobl a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad, ond, wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn groes i argymhelliad Ellen Hazelkorn, nad oedd mewn gwirionedd yn argymell y ffordd honno ymlaen ac a ddangosodd, mewn systemau rhyngwladol eraill y bu hi'n edrych arnyn nhw, nad oedd y chweched dosbarth yn rhan o'r system honno. A dyna pam y mae angen inni, unwaith eto, roi gryn ystyriaeth i fanteision ac anfanteision ei gynnwys.

Yr hyn sy'n wir ei ddweud o'r ymgynghoriad yw bod pobl i raddau helaeth iawn o'r farn, os ydym i chwalu'r rhaniad artiffisial hwn a'r gwahaniaeth ymddangosiadol hwn o ran parch cydradd rhwng y galwedigaethol a'r academaidd, ei bod yn bwysig iawn fod y chweched dosbarth yn cael ei gynnwys. Ond gallai fod yn wir, o ystyried y bydd gan y Comisiwn hwn dasg mor fawr, bod modd inni ddeddfu mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r chweched dosbarth gael ei gynnwys yn y comisiwn yn ddiweddarach—heb angen deddfwriaeth sylfaenol ychwanegol, ond i greu amgylchiadau yn y ddeddfwriaeth wreiddiol a fyddai'n caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiweddarach. Ond mae angen inni, unwaith eto, gael trafodaethau ystyriol iawn â rhanddeiliaid ynghylch manteision ac anfanteision y cynigion penodol hynny.

Rwy'n credu bod hynny wedi mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r materion. O ran oedolion a rhan-amser, mae hynny'n un o'r rhesymau dros groesawu Aelodau newydd ar Fwrdd CCAUC, oherwydd ni allwn eistedd yn ôl ac aros nes i'r comisiwn newydd gael ei sefydlu; mae angen inni fod yn datblygu syniadau nawr yn y maes hwn. Mae angen inni gael CCAUC a rhanddeiliaid eraill yn gweithio tuag at yr agenda hon ar hyn o bryd. Dyna pam yr wyf i'n falch iawn o ddweud y bydd gennym arbenigwyr yn y maes addysg seiliedig ar waith yn ymuno â CCAUC o 1 Rhagfyr, a bydd gennym hefyd arbenigwyr ym maes addysg oedolion ac addysg ran-amser yn ymuno â bwrdd CCAUC yn ddiweddarach eleni pan fydd swydd yn dod yn wag.