3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:12, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

O ran sefydlu'r comisiwn, fel y dywedais i, byddwn yn cynnal ymgynghoriad technegol. Fy mwriad i yw y bydd bwrdd gweithredol y comisiwn hwnnw'n cael ei benodi gan ddilyn gweithdrefnau arferol cystadleuaeth agored. O ran aelodau'r comisiwn, byddan nhw'n ddarostyngedig i'r broses penodiadau cyhoeddus sydd gennym ni yma yng Nghymru, proses yr ymgymerwyd â hi'n ddiweddar ar gyfer recriwtio aelodau newydd i fwrdd y CCAUC, bwrdd sydd wedi gwneud gwaith ardderchog yn cefnogi addysg uwch yng Nghymru, gwaith yr wyf i'n ddiolchgar iawn, iawn amdano. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu denu ymgeiswyr o safon uchel i gymryd swyddi newydd ar fwrdd CCAUC, pobl o Gymru a thu draw i'r ffin sydd yn dymuno rhoi o'u hamser ac yn awyddus i fod yn rhan o'r cyfnod cyffrous hwn o ddiwygio addysg yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, mae'n ymddangos i mi nad oes fawr o bwynt i mi egluro unwaith eto i'r Aelod egwyddorion diwygio Diamond. I fod yn gwbl glir i'r Aelod unwaith eto: ni fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig a fydd yn rhoi cymorth—gan gynnwys cymorth cynhaliaeth nad yw'n ad-daladwy—i fyfyrwyr rhan-amser. Ni fydd hyn yn digwydd yn yr Alban, nac yn digwydd yn Lloegr, nac yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Yn wir, mae'r gwledydd hynny a'r rhannau hynny o'r sector sy'n gweithio y tu allan i Gymru yn edrych yn genfigennus ar y ffordd yr ydym yn mynd i gefnogi'r sector rhan-amser, oherwydd rydym ni, yn y Llywodraeth hon, yn cydnabod bod astudio'n rhan-amser yn hollbwysig, nid yn unig i'r unigolion hynny, ond i gyfoeth economaidd y wlad. Un o broblemau Cymru yw cynhyrchiant ac rydych yn gwella cynhyrchiant nid yn unig drwy fuddsoddi mewn offer a pheiriannau—ond drwy fuddsoddi yn eich gweithlu, a byddwn yn helpu i greu'r amgylchedd fydd yn galluogi pobl i astudio yn rhan-amser. Fy her i i'r sector busnes fydd ymgysylltu â llawer o gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i roi cymorth i hyfforddi eu gweithwyr ar gyfer lefelau uwch o sgiliau fel y gallwn ni godi economi Cymru. Ond rwyf wedi esbonio hyn i'r Aelod dro ar ôl tro. Ymddengys yn benderfynol i beidio â chydnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud. [Torri ar draws.]