4. Dadl: Cyfnod 4 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:23, 5 Rhagfyr 2017

Gair byr iawn gen i wrth i'r Bil gyrraedd diwedd ei daith yma yn y Cynulliad. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r Bil yn llawn ar hyd yr amser ac wedi helpu i'w wella drwy'r broses graffu. Mae dileu'r hawl i brynu wedi bod yn bolisi gan ein plaid ni ers degawdau. Roedden ni'n grediniol y byddai'r hawl i brynu'n gweithio yn erbyn y rhai sy'n methu â fforddio prynu tŷ, yn gweithio yn erbyn y rhai sy'n ddibynnol ar rentu yn y sector cymdeithasol er mwyn cael to uwch eu pennau. Ac yn anffodus, dyna sydd wedi digwydd. Mae'r nifer o dai cymdeithasol wedi haneru, bron, yng Nghymru, sydd wedi arwain at restrau aros maith, wedi arwain at ormod o bobl yn byw dan yr un to, wedi arwain at bobl yn byw mewn tai anaddas ac wedi arwain at gynnydd mewn digartrefedd. Gyda phasio'r Bil, mae'n bryd rŵan i'r Llywodraeth hon roi ffocws clir ar yr angen i adeiladu mwy o dai cymdeithasol a rhoi ffocws yr un mor glir i'r ymdrechion i ddileu tlodi ac anghyfartaledd—ffocws sydd ar goll ar hyn o bryd.