Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw a hefyd diolch iddo fe am y ffordd mae e wedi ymgymryd â'r broses o negodi rhwng ein dwy blaid, a hefyd diolch i'm ffrind Adam Price am arwain y negodi ar ran fy mhlaid i. Mae'n wir, wrth gwrs, fod yna nifer o bethau nad oedd yn bosib i'r Llywodraeth a Phlaid Cymru gytuno arnynt, ond rwy'n hyderus y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol y byddwn ni'n cario ymlaen i graffu ar y Llywodraeth ar y nifer o bwyntiau o anghytundeb cyllidol, ond, wrth gwrs, craffu hefyd ar weithrediad yn y meysydd lle roedd yna gytundeb rhyngom ni.
Drwy gydol y Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru wedi defnyddio ein rôl ni fel gwrthblaid mewn modd aeddfed ac adeiladol er budd pobl Cymru. Fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi llwyddo i sicrhau dros £210 miliwn o wariant ychwanegol, sydd yn golygu ein bod wedi sicrhau bron i £0.5 biliwn o enillion ers dechrau'r Cynulliad yma, enillion a fydd yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobl Cymru ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy ffyniannus i'n cenedl.
Mae'r cytundeb yma yn cynnwys £40 miliwn ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl amenedigol, buddsoddiad newydd mewn addysg feddygol yn y gogledd, nyrsys ychwanegol a buddsoddi mewn cysylltu ein cenedl trwy welliannau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de. Yn bwysig iawn hefyd, mae addewid i gymryd camau yn sgil Brexit, yn enwedig portal a fydd yn cefnogi busnesau wrth iddyn nhw geisio ymdopi â'r llanast sydd i ddod a'r llanast sydd eisoes ohoni.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau heddiw yn ei gyfraniad ein bod ni mewn trafodaethau pellach gyda'r Llywodraeth er mwyn trafod yr arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i hefyd eisiau gwybod, fel mae Nick Ramsay eisoes wedi sôn, ynglŷn â'r financial transactional capital. Mae hyn yn elfen sydd ddim yn newydd, ond mae maint yr elfen o arian ychwanegol sy'n deillio o hyn yn weddol newydd, a byddwn i'n gwerthfawrogi mwy o esboniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â natur yr arian yma.
Y gwirionedd, wrth gwrs, yn nhermau'r sefyllfa fiscal ehangach, yw bod Llywodraeth Cymru wedi gweld toriad bob blwyddyn—flwyddyn ar ôl blwyddyn—yn ei chyllid ers 2010. Mae'n debyg bod rhagor o doriadau er eu ffordd o Lundain. Wythnos diwethaf, cawsom ni gyfle i ddadlau cynnwys cyllideb y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd. Nid wyf i am ddefnyddio fy holl amser heddiw i aildrafod cynnwys y gyllideb honno, ond mae'n bwysig deall y cyd-destun economaidd a fiscal ehangach a gafodd y gyllideb honno ei chreu ynddo a'i effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.