Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn. Fel y dywedais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, mae ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r aer butraf yn y DU, lle mae mater gronynnol 10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel, ac mewn ysgolion yn fy rhanbarth i rydym ni wedi cael sawl diwrnod yn yr ychydig fisoedd diwethaf pan yr oeddent ddwywaith yn uwch na'r terfyn dyddiol diogel.
Llygryddion aer sydd ar fai am farwolaethau o leiaf pump o bobl bob dydd yng Nghymru, a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, mae nifer y gronynnau a nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer wedi cynyddu'n sylweddol. Er tegwch, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ceisio gwrthdroi'r polisi hwn ac wedi cyflwyno system dreth cerbyd newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd, sydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i symud i ddyfodol â cherbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar bob injan tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040. Rwy'n croesawu'r symudiadau hyn a byddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae angen i'r cam hwn gan Lywodraeth y DU gael ei ategu gan gamau gan Lywodraeth Cymru. Fel y clywsom y bore yma, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i'r Llys am ei diffyg gweithredu ar fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n bryd iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gallen nhw ddechrau drwy gymryd camau i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar dagfeydd traffig.
Bydd UKIP yn cefnogi y rhan fwyaf o welliannau Plaid Cymru. Rydym wedi dweud o'r dechrau bod llygredd aer yn fater iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw blaid—pob plaid—er mwyn i ni allu helpu i sicrhau strategaeth i helpu ym maes llygredd aer.
Rydym ni'n cytuno bod angen system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael, ond dylai hyn gael ei wneud ar lefel genedlaethol ac nid ei adael i fyrddau iechyd lleol. Gellid defnyddio datblygiadau newydd fel y lloeren Sentinel Five P a wnaethpwyd ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol er mwyn gwella'r modd o ragweld lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd ynghylch digwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau'r tywydd yn cynnwys lefel y paill. Mae angen i Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar fyrder. Mae lefelau uchel o lygredd yn lladd. Byddwn, felly, yn ymatal ar welliant 3 ond byddwn yn cefnogi holl welliannau eraill Plaid Cymru.
Mae buddsoddi mewn gwefru trydan i'w groesawu, ond mae'n rhaid inni ystyried yr heriau seilwaith enfawr sy'n cyd-fynd â thrydaneiddio trafnidiaeth. Sut gallwn ni ddarparu mannau gwefru i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n ddigon ffodus i gael dreif neu garej? Byddwn yn annog y Llywodraethau yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi mewn datblygu modd o wefru cerbyd yn ddi-wifr. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth hefyd sicrhau nad yw'r system gynllunio yn amharu ar gyflwyno gwefru cerbydau trydan. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r her fawr iechyd y cyhoedd hon yn uniongyrchol. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i wella ansawdd yr aer. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau aer glân Llywodraeth Cymru ac yn gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau na fydd unrhyw un yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Diolch.